Cydnabyddiaeth gan Dogs Trust i’r Cynllun Lles Anifeiliaid

16eg Chwefror 2024

Mae ein Cynllun Lles Anifeiliaid, sy'n sicrhau bod cŵn Heddlu Gwent yn cael eu trin yn dda a bod y safonau uchaf yn cael eu bodloni, wedi cael tystysgrif cydnabyddiaeth gan Dogs Trust am flwyddyn arall.

Mae ein hymwelwyr lles anifeiliaid yn chwarae rhan hollbwysig yn sicrhau bod cŵn Heddlu Gwent yn derbyn gofal o'r safon uchaf, a bod eu lles corfforol ac emosiynol yn cael ei warchod.

Mae'r ardystiad gan Dogs Trust yn golygu bod yr elusen yn fodlon ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel, a'u bod yn hapus i barhau i weithio gyda Heddlu Gwent i ddarparu cŵn sydd wedi cael eu hachub i gael eu hyfforddi yn y dyfodol.