Croesawu swyddogion newydd

20fed Medi 2021

Mae Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas, wedi croesawu 31 o swyddogion heddlu newydd i Heddlu Gwent.

Mae’r swyddogion wedi cwblhau eu hyfforddiant a byddant yn cael eu defnyddio gyda thimau plismona ledled pum sir Gwent yn awr.

Maent yn rhan o ymrwymiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gynyddu nifer y swyddogion heddlu yng Ngwent.

Meddai Eleri Thomas: “Mae’r recriwtiaid newydd wedi gweithio’n galed yn ystod eu hyfforddiant, dan amgylchiadau anodd iawn, a dylid canmol eu gwaith caled a’u hymroddiad.

“Mae’r cyhoedd yn haeddu’r gwasanaeth gorau posib gan yr heddlu ac rwy’n gwybod y bydd y swyddogion hyn yn ymdrechu i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod Gwent yn parhau i fod yn un o’r llefydd mwyaf diogel yn y DU i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.”