Comisiynydd yn codi pryderon ynghylch yr opsiynau ar gyfer yr M4 a gyhoeddwyd

8fed Hydref 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi codi pryderon am gyhoeddiad  Llywodraeth Cymru bod cau tair cyffordd ar yr M4 ymysg yr opsiynau y mae’n eu hystyried er mwyn ymdrin â thagfeydd.

Dywedodd: “Gallai cau’r cyffyrdd hyn beri risg sylweddol i amseroedd ymateb gwasanaethau brys ledled Gwent gyfan, gan y gellid gorfodi cerbydau i deithio ar hyd llwybrau pellach i gyrraedd lleoliad argyfwng. Gallai hefyd beri risg o orfodi mwy o draffig ar ffyrdd lleol, gan ddod â’r tagfeydd i mewn i’n cymunedau a chreu mwy o oedi i gerbydau’r gwasanaethau brys.

“Er fy mod yn ymwybodol mai un o nifer o gynigion yw hwn, mae’r rhain yn benderfyniadau enbyd. Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n cynnal ymgynghoriad llawn a thrwyadl gyda’r gwasanaethau brys ac yn ystyried o ddifrif yr effaith y gallai cau’r cyffyrdd hyn ei chael ar amseroedd ymateb i argyfwng yng Ngwent.”