Clwb ieuenctid yn Y Fenni yn tyfu ac yn croesawu aelodau newydd

14eg Chwefror 2024

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn cefnogi clwb ieuenctid ar gyfer plant a phobl ifanc du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn Y Fenni.

Gall pobl ifanc fwynhau crefftau, chwarae gemau a dysgu sgiliau newydd yn Neuadd Gymuned Llandeilo Bertholau bob dydd Gwener. Mae plant o bob cefndir yn cael eu hannog i ddod a chymryd rhan yn y sesiynau, sydd wedi cael eu hehangu i gynnwys clwb gwaith cartref i'r rhai sydd angen mwy o gymorth gyda'u gwaith ysgol.

Mae'r clwb ieuenctid yn bartneriaeth rhwng Cymdeithas Cymuned Fwslimaidd Sir Fynwy a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), ac mae'n cael ei ariannu gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy. Mae EYST yn derbyn cyllid gan gronfa gymunedol Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd hefyd.

Meddai Moshin Mohammed, gweithiwr cefnogi ieuenctid EYST: "Trwy gefnogi Cymdeithas Cymuned Fwslimaidd Sir Fynwy i ddatblygu'r clwb ieuenctid yn Y Fenni rydym yn rhoi man diogel i blant o gefndiroedd ethnig leiafrifol siarad am faterion y byddent efallai'n teimlo'n anghyfforddus yn eu trafod mewn amgylcheddau eraill.

"Y peth mwyaf pwysig yw ei bod yn wych gweld y bobl ifanc yn chwarae a gweithio gyda'i gilydd ac yn mwynhau eu hunain.

Meddai Mohammad Habboub, cadeirydd Cymdeithas Cymuned Fwslimaidd Sir Fynwy (MMCA): "Nod y clwb ieuenctid yw dod â phlant o wahanol gefndiroedd, ethnigrwydd a chrefyddau at ei gilydd a rhoi rhywle diogel iddyn nhw yn eu cymuned.

"Er ein bod yn canolbwyntio ar ein cymunedau du ac ethnig leiafrifol, nid ydym yn troi neb i ffwrdd ac mae croeso i unrhyw un ymuno. Trwy ddod â chymunedau ynghyd, gwella dealltwriaeth a meithrin perthnasau gallwn greu dyfodol gwell i'n plant, ac i'w plant nhw."

Mae sesiynau'n cael eu cynnal yn Neuadd Gymuned Llandeilo Bertholau bob dydd Gwener rhwng 5pm a 6.30pm. I gael manylion, cysylltwch â Moshin Mohammed 07522178529 / moshin@eyst.org.uk