Cerbydau oddi ar y ffordd wedi'u hatafaelu

2il Awst 2023

Ymunodd fy nhîm â'r heddlu a phartneriaid yn ddiweddar ar gyfer ymgyrch i fynd i'r afael â beicio oddi ar y ffordd.

Roedd Ymgyrch Harley yn targedu mannau lle mae gyrru oddi ar y ffordd yn achosi problemau, gan gynnwys mynydd Y British a'r tir comin o gwmpas Blaenafon.

Roedd yn ymgyrch lwyddiannus ac atafaelodd Heddlu Gwent:

  • 3 fan
  • 2 gar
  • 1 beic
  • 1 beic cwad


Arestiwyd dau o bobl a chyflwynwyd un rhybudd adran 59 hefyd.

Roedd yn rhybudd clir i bobl sy'n defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon, rhai ohonyn nhw wedi teithio o Loegr i reidio yn ein hardal ni, nad oes croeso iddyn nhw yma.

Hoffwn ddiolch i'r heddlu, y cyngor, cynghorwyr lleol, y Gymdeithas Cominwyr a phartneriaid o Cyfoeth Naturiol Cymru am eu cymorth yn ystod yr ymgyrch yma.

Mae beicio oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn drosedd anodd iawn i'w phlismona. Mae ein hardaloedd gwledig yn eang iawn ac mae pwerau'r heddlu i orfodi unrhyw fathau o fesurau ataliol yn gyfyngedig.

Mae'n achosi difrod i'r tir, niweidio bywyd gwyllt a da byw, ac yn bygwth bywoliaeth ffermwyr. Mae defnyddio cerbydau heb dreth neu heb yswiriant, cerbydau sy'n cael eu defnyddio'n beryglus ar y ffyrdd yn aml, yn peryglu cerddwyr a defnyddwyr y ffyrdd hefyd.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau, mae'r ymgyrch yma'n dangos bod Heddlu Gwent yn parhau i weithio'n galed i fynd i'r afael â'r broblem yma.

Er mwyn i’r heddlu allu cymryd camau effeithiol mae angen i bobl riportio’r problemau hyn. Os ydych chi'n amau bod rhywun yn defnyddio beic oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon, gallwch roi gwybodaeth yn ddienw drwy ffonio 101, neu ar dudalen Facebook a Twitter Heddlu Gwent. Gallwch roi gwybodaeth yn ddienw i Crimestoppers hefyd ar 0800 555 111.

Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.