Ateb eich cwestiynau am Covid-19 a phlismona lleol

16eg Ebrill 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn rhoi cyfle i breswylwyr holi unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw am Covid-19 a phlismona lleol.

Gellir cyflwyno cwestiynau tan ddydd Sul 19 Ebrill a bydd atebion yn cael eu postio ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Wrth reswm, mae gan bobl gwestiynau am y rheolau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i'n cadw ni'n ddiogel rhag Covid-19, am y ffordd mae Heddlu Gwent yn defnyddio'r pwerau hyn a sut mae busnes yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod hwn, na welwyd ei fath o'r blaen.

"Fy nghyfrifoldeb i yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y gwasanaeth mae Heddlu Gwent yn ei ddarparu ac rwy'n rhoi cyfle i breswylwyr ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw, naill ai am waith Heddlu Gwent, neu am waith fy swyddfa i, yn ystod y cyfnod hwn."

Anfonwch gwestiynau at engagement@gwent.pnn.police.uk neu ar y cyfryngau cymdeithasol www.facebook.com/gwentpcca  www.twitter.com/gwentpcc