£300,000 wedi'i atafaelu gan droseddwyr ar gael i gefnogi pobl ifanc yng Ngwent

3ydd Mai 2019

Gall sefydliadau ledled Gwent wneud cais yn awr i'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (y Comisiynydd) am gyfran o'r £300,000 mewn arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr ac o werthiant eiddo wedi ei ganfod nad oes neb wedi ei hawlio.

Mae Cronfa Gymunedol yr Heddlu'r Comisiynydd ar agor i sefydliadau sy'n gweithio i alluogi plant a phobl Ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd yng Ngwent i fyw bywydau diogel, iach a hapus, wrth adeiladu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain a'u cymuned.

Mae'r gronfa newydd, sy'n disodli Cronfa Bartneriaeth y Comisiynydd, yn annog cynigion gan sefydliadau dielw am symiau rhwng £10,000 a £50,000, sy'n gallu dangos y bydd eu prosiect yn cyflawni yn erbyn blaenoriaethau heddlu a throseddu'r Comisiynydd.

Wrth lansio’i gronfa newydd, dywedodd y Comisiynydd, Jeff Cuthbert "Bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau bod hyd yn oed mwy o'r arian sy'n cael ei atafaelu gan droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er budd ein cymunedau lleol.

“Rwy'n credu trwy roi cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd symud ymlaen gyda'u bywydau a chyflawni eu potensial yn llawn, y gallwn greu cymunedau mwy diogel a chynhwysol.

“Rydym am gydnabod y prosiectau sy’n darparu ymyrraeth ac atal cynnar. Rhai sy'n gwneud gwahaniaeth anferthol i fywydau llawer o bobl ifanc sydd mewn perygl yn ein cymunedau.

“Os ydych chi'n credu bod gennych chi brosiect sy'n bodloni ein meini prawf, cysylltwch â ni.”

Ers ei lansiad, mae'r gronfa wedi rhoi £167,604.50 i chwe phrosiect ledled Gwent.

Un o'r rhai sy'n cael cymorth yw Urban Circle a'i brosiect 'U Turn', menter sy'n defnyddio gwahanol ffurfiau ar y celfyddydau creadigol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol lluosog sy'n effeithio ar bobl ifanc bregus.

Gellir gwneud cais trwy gydol y flwyddyn, ac mae pedwar bwrdd cyllid yn cael eu cynnal bob blwyddyn.

Bydd Arolygwyr Lleol, ynghyd â Swyddog Cynhyrchu Incwm Heddlu Gwent, yn hwyluso’r gwaith o gynhyrchu syniadau am brosiectau sydd wedi dod oddi wrth y cymunedau eu hunain.

Croesawir prosiectau sy'n cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg neu sy'n ddwyieithog.

Ceir rhagor o wybodaeth am Gronfa Gymunedol yr Heddlu'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gan gynnwys meini prawf a manylion sut i wneud cais, yma www.bit.ly/CronfaGymunedolPCC .