Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cofnodi penderfyniad i ddyfarnu grantiau o Gronfa Gymunedol y Comisiynydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27.

Reference Number: PCCG-2025-028

Date Added: Dydd Mercher, 18 Mawrth 2026

Details:

Nod y Gronfa hon yw grymuso cymunedau i weithredu - boed hynny trwy ymgysylltu â phobl ifanc, darparu gwasanaethau cymorth, mentrau diogelwch cymunedol neu ddulliau arloesol i leihau aildroseddu. Mae hefyd yn ceisio meithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng y cyhoedd a'r heddlu trwy gefnogi prosiectau sy'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol. Trwy ariannu ymyraethau seiliedig ar dystiolaeth o ansawdd, da sy'n cael eu harwain gan y gymuned, y nod yw creu newid cadarnhaol parhaol i gymunedau ledled Gwent - yn arbennig i blant a phobl ifanc ac ardaloedd mwy amddifad a bregus.

 

Lansiwyd Cronfa 2026/27 ym mis Rhagfyr 2025 a chyflwynwyd 28 cais a oedd yn dod i gyfanswm o £816,672 ar gyfer cyfnod 2026/27.

 

Yn dilyn proses asesu gadarn gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn ystod Panel Adolygu Rhagfyr 2025 llwyddodd 16 o brosiectau i dderbyn cyllid gwerth £443,826.

Mae'r dyfarniadau hyn ar y cyd â'r dyfarniadau aml flwyddyn blaenorol llwyddiannus yn dod â chyfanswm y dyfarniad ar gyfer cyllid 2026/27 i £797,033. Cytunwyd y dylid talu'r cyllid ychwanegol dros y £500,000 blynyddol o fy nghronfa glustnodedig 'Strategaeth Comisiynu ac Ymgyrchoedd yr Heddlu' ar yr achlysur hwn, oherwydd safon uchel y ceisiadau a dderbyniwyd

Attachments: