Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid grant o Gronfa Gymunedol y Comisiynydd i ddau sefydliad o gronfa 2018/19 sy'n dod i gyfanswm o £78,721.00 a thri sefydliad o gronfa 2019/20 sy'n dod i gyfanswm o £140,060.00.

Reference Number: PCCG-2019-051

Date Added: Dydd Gwener, 11 Hydref 2019

Details:

Dyfarniadau Grant ychwanegol 2018/19: Community House - £39,121 tuag at Brosiect Ieuenctid Maendy ‘Schools Out’, a fydd yn cynyddu gweithgarwch ieuenctid yn ystod gwyliau ysgol i gyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad negyddol a hyrwyddo cydberthnasau cadarnhaol. Creazione in Community - £39,600 tuag at brosiect a fydd yn ganolfan un stop sy'n cynnig gweithgareddau dargyfeiriol. Bydd y clwb cymuned yn cynnig darpariaeth leol i bobl ifanc a lle diogel, llawn hwyl i fynychu sesiynau wythnosol gyda'r nos ac ar benwythnos pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei waethaf. Dyfarniadau Grant 2019/20 (Ebrill - Medi): Grwpiau Rhyngweithio Ieuenctid Bryn Farm a Choed Cae - £40,151 tuag at brosiect rhwng y cenedlaethau a fydd yn rhoi sylw i gydberthnasau rhwng pobl hŷn a phobl ifanc. Bydd yn rhoi sylw i ddatblygiad personol unigolion, materion iechyd meddwl unigol a chysylltiedig, datblygiadau addysgol a rhyngweithio cymdeithasol. Bydd y rhaglen weithgareddau'n cynnwys cyfleoedd i bobl ifanc arwain gweithgareddau yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol a chreu ymrwymiad i ddatblygiad personol. Y Gwasanaeth Eirioli Pobl Ifanc Cenedlaethol (NYAS) - £49,909 tuag at brosiect sy'n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o ddod yn ddioddefwyr trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y prosiect yn helpu i chwalu rhwystrau i ymgysylltu gyda gwahanol wasanaethau (e.e. sefydliadau addysg a sefydliadau yn y gymuned) yn ogystal â meithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol, codi dyheadau a meithrin hyder. Bydd y prosiect yn defnyddio eiriolaeth a dull seiliedig ar hawliau i sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed a'u safbwyntiau'n cael eu gwerthfawrogi. Bydd gwasanaethau pwrpasol yn cael eu darparu i gefnogi pobl ifanc ar sail un i un hefyd, i'w helpu nhw gyda'u problemau a'u cyfeirio nhw at wasanaethau eraill. Urban Circle Productions - £50,000 tuag at Gam 2 prosiect U Turn a dderbyniodd gyllid ar gyfer Cam 1 yn 2018/19. Bydd y prosiect yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar gelf greadigol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol lluosog sy'n effeithio ar bobl ifanc bregus. Bydd y prosiect yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio a threfnu gwahanol ddigwyddiadau (e.e. Calan Gaeaf) a gweithdai, gan dderbyn atgyfeiriadau ble y bo'n briodol. Bydd yn darparu hyfforddiant sgiliau bywyd ac yn rhoi cyfle i'r bobl ifanc ennill cymwysterau mewn gwahanol feysydd (e.e. Cymorth Cyntaf, Diogelu a Gwaith Ieuenctid).

Attachments: