SUT I WNEUD CWYN YN ERBYN SWYDDOG HEDDLU, AELOD O STAFF HEDDLU NEU GŴYN SEFYDLIADOL AM HEDDLU GWENT

Bydd angen gwneud unrhyw gŵyn yn erbyn swyddog heddlu, aelod o staff yr heddlu, neu unrhyw gŵyn yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Heddlu Gwent neu unrhyw bolisi sydd ganddo ar waith, i Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent. Os bydd Swyddfa'r Comisiynydd yn derbyn cwynion yn uniongyrchol, byddwn yn eich ateb i'ch hysbysu chi ein bod wedi cyflwyno eich cwyn i Heddlu Gwent ac wedi rhoi eich manylion cyswllt i'r Adran Safonau Proffesiynol er gwybodaeth ar gyfer y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cwyn ar wefan Heddlu Gwent.

Gallwch gysylltu â'r Adran Safonau Proffesiynol drwy ffonio 101, neu drwy lenwi'r ffurflen cwynion ar-lein.

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent
Pencadlys yr Heddlu
Llantarnam Park Way
Llantarnam
Cwmbran
Torfaen
NP44 3FW