Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent – Cais am Ddyfynbrisiau
Arolwg Boddhad Dioddefwyr
- Cefndir a chyd-destun
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn cael ei ethol yn lleol i sicrhau plismona effeithlon ac effeithiol gyda dyletswydd gyfreithiol i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am sut mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu'n lleol.
Mae Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder 2025-2029 yn ymrwymo'n benodol i:
- Ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr ac sy'n sicrhau canlyniadau gwell i ddioddefwyr.
- Ariannu gwasanaethau cymorth effeithiol i ddioddefwyr, i'w helpu nhw i ymdopi ac adfer ac i'w hatal nhw rhag dioddef trosedd eto.
- Gwrando ar safbwyntiau dioddefwyr er mwyn buddsoddi mewn ffyrdd newydd ac arloesol i roi cymorth iddynt, yn seiliedig ar adborth ganddynt.
Mae arolygon boddhad dioddefwyr wedi cael eu cynnal bob tri mis i'n helpu ni i ddeall y gwasanaeth a'r cymorth a ddarperir yn ystod siwrnai dioddefwr a'r gwelliannau y gallwn ni ei wneud. Hyd yn hyn, mae timau mewnol wedi darparu'r rhain.
Mae gwaith wedi cael ei wneud yn ddiweddar rhwng Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd) a Heddlu Gwent i ddiweddaru set cwestiynau'r arolwg dioddefwyr presennol ac adolygu'r fethodoleg bresennol i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn cefnogi newid. Mae'r broses bresennol yn cynhyrchu adborth cyfyngedig, gyda rhy ychydig o ymatebion i ddarparu sail tystiolaeth gadarn a chyson ar gyfer dysgu sefydliadol, gwella gwasanaeth a sicrwydd.
Rydym eisiau rhoi model arolwg a set cwestiynau diwygiedig ar waith, sy'n cael ei ddarparu'n allanol yn defnyddio model cyswllt seiliedig ar gydsyniad. Bwriad hyn yw sicrhau adborth gwell, mwy cynrychiadol gan ddioddefwyr, y gellir gweithredu yn ei sgil, gan sicrhau bod y dull gweithio'n parhau i fod yn foesegol, ystyriol o drawma, yn hygyrch ac yn cyd-fynd â'r Cod Dioddefwyr, blaenoriaethau gofal dioddefwyr ac amcanion gwella ehangach y sefydliad.
- Pwrpas yr arolwg boddhad a chwmpas y gwaith
Trwy weithredu model arolwg diwygiedig, rydym yn ceisio:
- Cryfhau ansawdd a hygrededd adborth trwy sail ymateb mwy o ran maint a mwy cynrychiadol, gan alluogi mwy o gasgliadau dibynadwy am brofiadau dioddefwyr, ansawdd gwasanaeth a meysydd y mae angen eu gwella.
- Sicrhau bod y model arolwg yn hygyrch i amrywiaeth ehangach o ddioddefwyr, gan gynnwys y rheini gyda gwahanol anghenion cyfathrebu, nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys plant a phobl ifanc), gwahanol fregusrwydd a dewisiadau, gyda'r gallu i gynnal arolygon trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Rheoli ymgysylltu gyda grwpiau risg uchel fel dioddefwyr cam-drin domestig a throseddau difrifol trwy brotocolau rheoli risg cadarn sy'n sicrhau diogelwch dioddefwyr.
- Cynhyrchu canfyddiadau y gellir eu dadansoddi yn ôl mathau o drosedd, grwpiau dioddefwyr, nodweddion gwarchodedig a meysydd arolwg perthnasol er mwyn gwella dealltwriaeth o brofiadau gwahaniaethol, anghymesuredd, anghenion nas diwallwyd neu gyfleoedd penodol i wella gwasanaethau.
- Rhoi model strategol gynrychioliadol ar waith sy'n darparu digon o ymatebion, cynnwys y grwpiau cywir a dilyn dull dibynadwy fel y gellir defnyddio'r canfyddiadau yn hyderus ar gyfer llywodraethiant, goruchwylio perfformiad a gwella gwasanaethau.
- Cynyddu annibyniaeth a hyder yn y broses i annog mwy o bobl i gymryd rhan, rhoi sicrwydd ein bod yn ddiduedd, a gwella ansawdd a gonestrwydd adborth gan ddioddefwyr.
- Rhoi adborth y gellir ei ddefnyddio er mwyn dysgu ystyrlon, gwella perfformiad, goruchwylio llywodraethiant a gwella gwasanaethau, yn hytrach na chynhyrchu data o werth gweithredol cyfyngedig.
- Rhoi model ar waith sy'n cyd-fynd â'r Cod Dioddefwyr ac arfer ystyriol o drawma, gan ategu hyder y cyhoedd yn y ffordd rydym yn gwrando ar ddioddefwyr ac yn ymateb iddynt.
- Sicrhau bod y model yn gweithredu o fewn deddfwriaeth diogelu data, gofynion rhannu gwybodaeth, ystyriaethau diogelu a safonau ymchwil moesegol, gyda rheolau clir ynglŷn â chydsyniad, trin a thrafod data, cadw data, diogelwch a riportio.
- Gwneud dysgu parhaus a gwerthuso yn rhan annatod o'n gwaith trwy adolygu effeithiolrwydd y model arolwg diwygiedig dros amser, gan gynnwys lefelau ymateb, ansawdd data, hygyrchedd i ddioddefwyr, cynrychiolaeth, defnyddioldeb gweithredol, gwerth dadansoddol a gwerth am arian, fel y gellir gwella'r dull o weithio yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Gofynion methodoleg
Dylai cynigion gynnwys methodoleg gadarn, gan gynnwys:
- Eglurder ynglŷn â dulliau arolwg, gan gynnwys dulliau nad ydynt yn ddigidol (h.y., ar y ffôn, wyneb yn wyneb) a chyswllt digidol, gan ddangos agwedd sy'n ystyriol o drawma. Dylai’r arolwg fod yn hygyrch i ddioddefwyr sy’n agored i niwed, sydd ag anghenion o ran iaith, gwahaniaethau diwylliannol, a/neu unrhyw beth arall sy'n rhwystro pobl rhag ymgysylltu.
- Tystiolaeth o brotocolau rheoli risg ar gyfer ymgysylltu â grwpiau risg uchel.
- Bodloni'r lefelau ymateb gofynnol ar gyfer cymryd rhan.
- Prosesau sicrhau ansawdd i sicrhau effeithiolrwydd.
- Trosolwg o ddulliau adrodd posibl a gallu dadansoddol addas ar gyfer anghenion y sefydliad.
- Amserlenni dangosol ar gyfer gweithredu.
Byddwn yn disgwyl i gynigwyr ddangos:
- Profiad o ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth mewn ffordd ystyriol o drawma a moesegol.
- Y gallu i reoli cyfrinachedd a diogelu yn briodol.
- Hanes o lwyddiant mewn gwaith tebyg.
- Yr hyn y mae angen ei gyflawni
Bydd angen i'r cynigydd gyflawni'r canlynol:
- Cyfarfodydd dechreuol gyda Swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent i gadarnhau cwmpas a dull gweithio.
- Rhoi cymorth gyda fframweithiau arolwg a chwestiynau sy'n rhoi prawf ar yr agweddau ar y gwasanaeth sydd fwyaf tebygol o ddylanwadu ar hyder a boddhad dioddefwyr.
- Cydweithrediad priodol gydag arbenigwyr dioddefwyr mewnol i sicrhau asesiad risg effeithiol a rheoli / lliniaru risg yn effeithiol i grwpiau risg uchel.
- Darparu adroddiad / dadansoddiad o ganfyddiadau ar ôl pob cyfnod arolwg sy'n ategu llywodraethu mewnol, goruchwylio perfformiad a chraffu ac arolygu allanol, ac olrhain tueddiadau dros amser.
- O dan Fesur y Gymraeg 2011 a'r Safonau perthnasol a osodwyd ar Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent, rhaid ystyried y Gymraeg wrth baratoi'r arolwg a rhaid cynnwys darparu'r arolwg yn Gymraeg, ble y bo gofyn, yn y contract.
- Parodrwydd i gael yr arolwg yn barod i'w lansio ar 1 Ebrill 2027
- Cyllideb ac amserlenni
Uchafswm y gyllideb ar gyfer y prosiect hwn yw £20,000 (heb gynnwys TAW) y flwyddyn am dair blynedd.
Dylid cyflwyno ymatebion a dyfynbrisiau erbyn Dydd Gwener 11 Rhagfyr 2026.
Dylai cyflwynwyr gadarnhau a allant fodloni'r amserlen hon a rhoi dyfynbris pris penodedig, gan gynnwys dadansoddiad o weithgarwch.
- Gofynion ceisiadau a meini prawf gwerthuso
Dylid cyflwyno:
- Cynnig (dim mwy na 5 tudalen) yn amlinellu:
- Dealltwriaeth o'r briff a'r mater dan sylw.
- Methodoleg arfaethedig.
- Profiad perthnasol.
- Cynllun ac amserlenni'r prosiect.
- Dadansoddiad clir o'r costau.
- Manylion arweinydd y prosiect.
Bydd y cynnig yn cael ei asesu ar y sail ganlynol:
|
Meini prawf |
Pwysoliad |
|
Dealltwriaeth o'r briff a'r mater dan sylw |
35% |
|
Priodoldeb y fethodoleg |
35% |
|
Profiad ac arbenigedd perthnasol |
20% |
|
Gwerth am arian |
10% |
Dylid anfon cynigion at:
Caroline.Hawkins@gwent.police.uk.
Erbyn: 12:00, Dydd Gwener 11 Rhagfyr 2026.
I gael esboniad ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Sam Slater, Pennaeth Strategaeth, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd