Cyflogaeth ôl-Wasanaeth y Prif Gwnstabl

Ym mis Mawrth 2018, cyflwynodd y Swyddfa Gartref ofyniad i Brif Swyddogion hysbysu ynghylch unrhyw gyflogaeth ôl-wasanaeth o fewn 12 mis ar ôl iddyn nhw adael gwasanaeth yr heddlu. Roedd hyn felly yn ei gwneud hi’n ofynnol i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd i adolygu a chymeradwyo addasrwydd cyflogaeth ôl wasanaeth y Prif Gwnstabliaid (ond nid y Dirprwy na’r Prif Gwnstabliaid Cynorthwyol). At ddibenion tryloywder, mae’n ofynnol wedyn i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd gyhoeddi’r manylion hyn ar eu gwefan.