Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2018

4ydd Medi 2018

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn £5,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithgareddau Heddlu Gwent yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb eleni rhwng y 13eg a'r 20fed Hydref.

Eleni, mae Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol am symiau hyd at £500 i gefnogi gweithgareddau penodol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb.

Dylai'r rhain roi sylw i anghenion lleol ac mae'r meysydd canlynol ymysg y rhai a fydd yn derbyn blaenoriaeth:

  • Annog hysbysu am droseddau casineb sy'n ymwneud ag anableddau
  • Herio homoffobia, deuffobia a thrawsffobia ar-lein
  • Codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb o fewn cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Rhannu profiadau ceiswyr lloches a ffoaduriaid gyda’r gymuned ehangach
  • Meithrin hyder ymysg grwpiau aml ffydd (yn arbennig menywod Mwslimaidd) i hysbysu am droseddau casineb
  • Mynd i'r afael â chasineb yn yr economi hwyr y nos (sarhad tuag at weithwyr mewn siopau, bariau a bwytai a gyrwyr tacsi)

Gallai gweithgareddau gynnwys gweithdai, argraffu a dosbarthu gwybodaeth, hyfforddiant neu ddigwyddiadau cymdeithasol. Bydd pob gweithgarwch a ariennir yn dangos arwyddair Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent (darperir y rhain), a bydd yn defnyddio'r hashnodau y cytunwyd arnynt ar gyfer yr wythnos #WeStandTogether a #NoPlaceforHate. Rydym yn chwilio am syniadau sydd ychydig yn wahanol, a rhywbeth nad ydym wedi ei weld o'r blaen.

Mae'r gronfa ar agor i grwpiau cymunedol, sefydliadau dielw ac elusennau cofrestredig. Rhaid i'ch gweithgaredd arfaethedig fod yn benodol ar gyfer cymunedau yng Ngwent. Os hoffech gyflwyno cais, darparwch y manylion canlynol:

  • Enw sefydliad
  • Enw a swydd yr unigolyn cyswllt
  • Manylion cyswllt (e-bost a rhif ffôn)
  • Crynodeb o'ch prosiect (dim mwy na 500 gair)
  • Pam fod angen eich prosiect (dim mwy na 500 gair)
  • Yr hyn rydych yn ceisio ei gyflawni a sut byddwch yn gwybod bod eich prosiect wedi bod yn llwyddiannus

Os bydd eich cais yn llwyddiannus gofynnir i chi hefyd roi gwerthusiad o'ch prosiect i ni er mwyn i ni gael gwybod sut hwyl y cawsoch chi.

Anfonwch geisiadau trwy e-bost at heather.powell@gwent.pnn.police.uk erbyn dydd Gwener 14eg Medi 2018.