Swyddogion heddlu Gwent yn derbyn cydnabyddiaeth am eu dewrder
14eg Rhagfyr 2021
Mae dau o swyddogion Heddlu Gwent wedi derbyn gwobr genedlaethol am eu dewrder aruthrol wrth achub dwy fenyw rhag ychen y dŵr ar fferm yng Ngwent.
Cwnstabl Heddlu Owain Smallwood a Chwnstabl Heddlu Mark Burbrigde oedd yr enillwyr rhanbarthol yng Ngwobrau Dewrder yr Heddlu 2021.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rhoddodd y ddau swyddog hyn eu hunain mewn perygl eithriadol er mwyn achub bywydau pobl eraill ac rwyf yn falch bod eu dewrder wedi cael ei gydnabod gyda gwobr genedlaethol.
"Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth parhaus, ac am bopeth maen nhw'n ei wneud bob dydd i gadw trigolion yn ddiogel."