Recriwtio swyddogion cymorth cymunedol

25ain Mehefin 2020

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae swyddogion cymorth cymunedol yn gwneud gwaith ardderchog. Yn aml, nhw yw'r cysylltiad rhwng yr heddlu a'r gymuned leol, yn helpu i ddatblygu hyder a magu gwell cydlyniant cymunedol.

"Nid yw'n swydd hawdd ac mae swyddogion cymorth cymunedol yn aml yn rhoi cymorth i rai o'r trigolion mwyaf bregus yn ein cymunedau.

"Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi eu cymuned i ddysgu mwy am y gwaith."

Mae gwaith swyddog cymorth cymunedol yn cynnwys:

  • Mynd ar batrôl yn y gymuned, gan ddod i adnabod trigolion
  • Rhoi cymorth i dimau plismona cymdogaeth ddatrys problemau lleol
  • Ymweld â chartrefi i gasglu gwybodaeth a chynnig tawelwch meddwl ar ôl trosedd neu ddigwyddiad
  • Meithrin cysylltiadau gyda phobl allweddol yn y gymuned, fel arweinwyr grwpiau lleol a chrefyddau
  • Gwarchod safleoedd troseddau
    Casglu tystiolaeth teledu cylch cyfyng
  • Rhoi cyngor ar atal trosedd a diogelwch personol
  • Gweithredu fel tyst, mynd i'r llys yn ôl yr angen
  • Ymgysylltu â phobl ifanc, creu cydberthnasau gwerthfawr.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Heddlu Gwent.