Mae cyllid ar gael i roi cymorth i blant a phobl ifanc
Gall sefydliadau yng Ngwent wneud cais am gyfran o £300,000 gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ariannu prosiectau sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd.
Mae Cronfa Gymunedol yr Heddlu ar agor i sefydliadau dielw sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n ymwneud, neu mewn perygl o ddechrau ymwneud, â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sydd wedi dioddef trosedd.
Mae cyfran o'r arian yn y gronfa wedi cael ei atafaelu gan droseddwyr, a gall sefydliadau wneud cais am symiau o £10,000 i £50,000.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Yn aml, plant a phobl ifanc yw'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ac mae hyn yn gallu golygu eu bod nhw mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Trwy gefnogi sefydliadau sy'n cynnig gweithgareddau cadarnhaol a dargyfeiriol i bobl ifanc, gan eu helpu nhw i ddatblygu eu hyder, sgiliau a dysgu, rydym yn eu helpu nhw i wireddu eu gwir botensial a chreu cymunedau mwy diogel a chydlynus.
Am ragor o wybodaeth am y meini prawf a’r broses ymgeisio ar gyfer Cronfa Gymunedol yr Heddlu ewch i wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu - www.gwent.pcc.police.uk/cy/y-hyn-rydym-yn-ei-wario/comisiynu/cronfa-gymunedol-yr-heddlu/
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 17 Medi.