Mae angen Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd arnom

24ain Mehefin 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn chwilio am aelodau'r cyhoedd i ymuno a'i gynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.

Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn wirfoddolwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ac sy'n ymweld â dalfeydd yr heddlu i wirio lles y bobl sy'n cael eu cadw ac i wirio dan ba amodau maen nhw'n cael eu cadw.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thîm o wirfoddolwyr sy'n chwarae rhan hollbwysig yn ymweld â gorsafoedd heddlu a chelloedd heddlu trwy ardal gyfan Heddlu Gwent.

Wrth annog gwirfoddolwyr i gynnig eu hunain, dywedodd Mr Cuthbert "Mae fy Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn adnodd allweddol sy'n fy helpu i fonitro perfformiad ac atebolrwydd Heddlu Gwent.

"Mae'n bwysig bod gan y rhai sy'n cael eu cadw, a'r swyddogion heddlu sy'n gweithio yn y ddalfa, rywun yn edrych ar ôl eu hawliau.

"Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn rhoi trosolwg annibynnol o'r hyn sy'n gallu bod yn amgylchedd dwys iawn, gan sicrhau bod y ddalfa yn rhywle lle mae pobl yn ddiogel ac yn cael eu trin â pharch.

Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae cyfrifoldeb statudol ar Mr Cuthbert i roi Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ar waith a monitro'i waith trwy ymgysylltu'n rheolaidd â'i wirfoddolwyr. Mae unrhyw broblemau sy'n codi'n cael eu trafod mewn cyfarfodydd penodol gydag Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a Heddlu Gwent.

Rydym yn derbyn ceisiadau yn awr a'r dyddiad cau yw dydd Mercher 10 Gorffennaf 2019 am 5pm.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn dysgu mwy am y Cynllun, neu am gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais, ewch i'r wefan, www.gwent.pcc.police.uk