Hwb i brosiect ieuenctid Dyffryn gan yr Uchel Siryf

19eg Mai 2023

Mae elusen yng Nghasnewydd wedi cael hwb o £5000 gan Gronfa Uchel Siryf Gwent.

Rhoddwyd yr arian i Cyswllt Cymunedol Dyffryn i gefnogi ei glybiau ieuenctid wythnosol a'i waith allgymorth yn y gymuned.

Mae'r elusen yn cynnal dau glwb ieuenctid yr wythnos yn Ysgol Uwchradd John Frost. Mae hefyd yn gwneud gwaith ieuenctid datgysylltiedig, yn chwalu rhwystrau gyda phobl ifanc yn yr ardal.

Meddai Darcie Williams, Rheolwr Gweithrediadau: "Mae nifer y bobl ifanc sy'n dod i'n clybiau ieuenctid wedi saethu i fyny yn ystod y misoedd diwethaf. Rydyn ni'n cynnig tri sesiwn ar gyfer gwahanol oedrannau, ac mae dros 40 o bobl y noson yn dod trwy'r drysau.

"Bydd yr arian hwn yn ein helpu ni gyda chostau bwyd ac offer, ac yn ein galluogi ni i barhau i gefnogi plant a phobl ifanc yn ein cymuned."

Nod Cronfa Uchel Siryf Gwent yw darparu ansawdd bywyd gwell a mwy diogel i bobl ifanc Gwent trwy gefnogi prosiectau sy'n helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Meddai'r Uchel Siryf, yr Athro Simon Gibson, CBE, DL: "Y geiriau gorau i ddisgrifio'r tîm yn Cyswllt Cymunedol Dyffryn yw brwdfrydig, penderfynol a gofalgar. Maen nhw'n helpu i ddiwallu anghenion amrywiol pobl ifanc trwy weithgareddau, maeth a chlust i wrando gyda'r nod o ddarparu llwybr bywyd cadarnhaol."


Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cyfrannu £65,000 at Gronfa'r Uchel Siryf.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Gwnaethom gefnogi Cyswllt Cymunedol Dyffryn i sefydlu ei glwb ieuenctid yn 2019 ac mae'n wych gweld ei fod yn ffynnu.

"Trwy roi rhywle diogel i bobl ifanc fynd, gyda chymorth oedolion dibynadwy, gallwn helpu i'w cadw nhw oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol."