Fideo Trosedd Cyfeillio'n cael ei lansio

5ed Mawrth 2019

Mae fideo newydd i godi ymwybyddiaeth am Drosedd Cyfeillio wedi cael ei lansio gan brosiect 'SAFE Males' Volunteering Matters, wedi ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.

Mae Trosedd Cyfeillio yn ffurf ar drosedd casineb lle mae unigolyn bregus yn cael ei ddefnyddio neu ei gam-drin gan rywun mae’n credu sy’n ffrind iddo.

Nid yw'r heddlu'n cael eu hysbysu am lawer o achosion ac yn aml mae'n anodd iddyn nhw ymchwilio iddynt.

Dywedodd Sianne Morgan, Rheolwr Datblygu Volunteering Matters: “Mae'r gwirfoddolwyr eisiau tynnu sylw at y ffaith bod angen i wrywod ifanc ag anghenion neu anabledd dysgu fod yn fwy ymwybodol am nifer o bynciau. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod cyfeillgarwch yn ddiogel, cam-fanteisio, gwahanol anghenion gwrywod a benywod ag anableddau, pornograffi ar-lein, y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n gyhoeddus a’r hyn sy’n breifat, a chynigion rhywiol amhriodol.

“Roedd y gwirfoddolwyr yn rhan annatod o lansio'r ffilm, o wneud y gynulleidfa’n ymwybodol am iechyd a diogelwch yn yr adeilad, i gynnal trafodaethau am drosedd cyfeillio. Aethant ati i wneud i'r gynulleidfa deimlo'n gartrefol ac i'w cynnwys hefyd, ac aethant ymlaen i rannu eu hanesion unigol ynghylch beth oedd y ffilm yn ei olygu iddyn nhw."

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: "Yn fy marn i, pobl sy’n cyflawni troseddau cyfeillio yw’r bobl waethaf. Rwy'n falch o fod wedi cefnogi'r fideo hwn sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth am y drosedd hon sydd yn gudd yn aml.

“Mae'r gwirfoddolwyr wedi gwneud gwaith gwych yn creu'r fideo hwn a dylent fod yn falch gyda chanlyniadau eu gwaith caled.”

Edrychwch ar y fideo yma