Dyfodol Cadarnhaol yn gwneud gwahaniaeth

3ydd Mehefin 2021

Mae pobl ifanc ledled Gwent wedi bod yn treulio amser yn yr awyr agored yn sglefrfyrddio, pysgota a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon eraill yn rhan o brosiect sy'n derbyn arian gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mae'r sesiynau'n cael eu rhedeg gan Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw sy'n trefnu gweithgareddau cadarnhaol i blant sydd mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Eu nod yw helpu pobl ifanc i sianelu eu hegni i weithgareddau iach wrth gael hwyl gyda'u ffrindiau.

Ymunodd Lilly â sesiwn sglefrfyrddio yn Senghennydd, Caerffili. Dywedodd: "Rwyf yn mwynhau dysgu sut i sglefrfyrddio. Pe na bawn i yma byddwn yn hongian o gwmpas heb ddim byd i'w wneud. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ac mae wedi helpu i fagu fy hyder.”

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae'n ardderchog gweld y sesiynau hyn yn cael eu darparu ar ôl cymaint o amser. Ni ellir pwysleisio digon faint o effaith mae'r cyfyngiadau symud wedi ei gael ar ein plant a phobl ifanc ac mae'r sesiynau hyn yn eu helpu nhw i ail gysylltu â ffrindiau, cadw'n iach, rhoi cynnig ar brofiadau newydd a datblygu sgiliau newydd.

“Trwy gynnig cyfle i blant a phobl ifanc, yn arbennig y rhai a all fod mewn perygl go iawn o ddechrau ymwneud â throsedd, gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol yn ifanc rydym yn rhoi pwyslais ar ymddygiad da ac yn helpu i osod y seiliau a fydd yn eu galluogi nhw i gael dyfodol hapus ac iach.”