Dydd y Cofio

11eg Tachwedd 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi nodi Dydd y Cofio mewn seremoni ym Mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân.

Dywedodd: “Ni fu Gwent yn rhydd rhag effaith y Rhyfel Mawr, ac nid yw wedi bod yn rhydd rhag effaith unrhyw ryfeloedd eraill ers hynny.

“Mae ein cymunedau'n llawn o gyn-filwyr a roddodd eu bywydau mewn perygl ac a welodd ffrindiau a chymrodyr yn gwneud yr aberth eithaf er mwyn ein rhyddid.

“Nid aelodau hŷn ein cymunedau yn unig yw'r rhain, ond aelodau iau hefyd. Pob un ohonynt wedi teimlo effaith ddinistriol rhyfel. Mae'n ddyletswydd arnom i gydnabod hyn a rhoi cefnogaeth iddynt.


"Hoffwn ddiolch i'r cyn-filwyr hynny, a'u teuluoedd, am y gwasanaeth pwysig maent wedi ei roi i'w gwlad."