Disgyblion Trinity Fields yn ymuno â Chadetiaid Heddlu Gwent

29ain Hydref 2019

Mae disgyblion o Ysgol Trinity Fields yn Ystrad Mynach, Caerffili, wedi ymuno â Chynllun Cadetiaid Heddlu Gwent.

Byddant yn dysgu am yr heddlu mewn sesiynau pwrpasol yn yr ystafell ddosbarth gyda'r Swyddogion Nxt Gen a swyddogion cymorth cymunedol, a byddant yn helpu i rannu'r wybodaeth hon gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd.

Roedd rhaid i'r disgyblion gymryd rhan mewn proses gyfweld, i esbonio pam roedden nhw eisiau ymuno â'r Cynllun Cadetiaid, a byddan nhw'n cael eu hiwnifformau eu hunain.

Trinity Fields yw'r ysgol anghenion addysgol arbennig arbenigol gyntaf yng Ngwent i ymuno â'r Cynllun Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol.

Dywedodd y Pennaeth, Ian Elliott MBE: “Mae ein plant wrth galon popeth rydym yn ei wneud ac ni allaf ddweud wrthoch chi pa mor falch ydw i bod ein disgyblion yn cymryd rhan yn y cynllun hwn. Mae'r effaith ar y plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a'n staff yn ffantastig. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r heddlu i sicrhau mai'r cynllun hwn yw'r un mwyaf arloesol yn y wlad."

Dywedodd Prif Arolygydd Amanda Thomas, sy'n arwain y Cynllun Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol yn Heddlu Gwent: “Mae'n hollbwysig bod plant gydag anghenion arbennig yn cael cyfle i ddod yn rhan o'r cynllun gwych hwn hefyd. Mae'r cynllun wedi cael ei deilwra er mwyn i'r plant allu elwa ar y cyfleoedd dysgu ac ymgysylltu a fydd yn dod fel rhan ohono. Mae hwn yn gyfle cyffrous ac rwy'n edrych ymlaen at weld y canlyniadau. Mae'r plant yn hynod o falch o'u rôl newydd a hoffwn ddiolch i’r Pennaeth Ian Elliott MBE a'i staff ymroddgar am gymryd rhan yn y cynllun.”

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae'r cynllun Cadetiaid yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng yr heddlu a phlant a phobl ifanc. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ysgol fel Trinity Fields, gan fod y plant hyn yn rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Hoffwn longyfarch yr holl Gadetiaid Heddlu newydd a gobeithio y byddan nhw'n mwynhau eu rolau newydd.”