Digwyddiad Calan Gaeaf yn ystod y cyfnod atal byr

27ain Hydref 2020

Dros gyfnod Calan Gaeaf eleni mae Urban Circle Casnewydd a G-Expressions yn cynnal wythnos o gemau, digwyddiadau a heriau ar-lein i blant a phobl ifanc. Uchafbwynt yr wythnos fydd digwyddiad arbennig ar noson Calan Gaeaf pan fydd gwerth £200 o wobrau'n cael eu cyflwyno bob awr.

Nod y digwyddiad, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan gronfa gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yw rhoi profiad Calan Gaeaf gwych i bobl ifanc yn eu cartrefi eu hunain mewn amgylchedd diogel ar-lein.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.eventbrite.co.uk/e/the-halloween-lockdown-giveaway-tickets-126709819481 neu www.facebook.com/UrbanCircle

Dywedodd Loren Henry, cyd-sylfaenydd Urban Circle: "Bob blwyddyn rydym yn cynnal digwyddiad cerddoriaeth ar thema Calan Gaeaf, sy'n cael ei drefnu gan y bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. Eleni, bydd yn digwydd ar-lein ond rydym yn bwriadu rhoi’r un faint o gyffro i'r bobl ifanc ag y byddent yn ei gael mewn digwyddiad go iawn, gan roi man diogel iddynt greu, rhyngweithio a chael hwyl.”

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'r bobl ifanc yn urban Circle wedi dangos menter a rhaid edmygu eu gwaith caled a'u hymroddiad wrth fynd ati i greu'r digwyddiad hwn.

"Y peth gwych am y digwyddiad ar-lein hwn yw bod pobl ifanc ledled Gwent yn gallu cymryd rhan, ac rwyf yn gobeithio y bydd yn galluogi'r rheini sy'n colli allan ar eu Calan Gaeaf arferol i gael hwyl a mwynhau mewn amgylchedd diogel."