Cynnydd mewn euogfarnau cam-drin domestig

12fed Medi 2019

Mae euogfarnau cam-drin domestig yng Nghymru wedi codi yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Yng Ngwent, canran y cyhuddiadau sy'n arwain at euogfarn yw 85.2 y cant o'i gymharu â'r raddfa genedlaethol is o 77.1 y cant.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae rhoi cymorth i'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau wrth galon fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

"Mae Heddlu Gwent wedi ymdrechu'n sylweddol i wella ymchwiliadau cam-drin domestig. Mae hyfforddiant a gwaith gwell wrth gasglu tystiolaeth o gamerâu a wisgir ar y corff a dyfeisiadau digidol wedi cyfrannu at fwy o arestiadau.

"Maen nhw hefyd wedi gwella'r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig yn sylweddol.

"Wrth gwrs, mae mwy o waith i'w wneud ond mae'r ffigyrau'n gadarnhaol iawn a hoffwn longyfarch Heddlu Gwent am y gwelliannau maen nhw wedi eu gwneud yn y maes hwn."