Cyllid i fynd i'r afael â throseddau casineb

11eg Hydref 2018

Mae deg prosiect o bob rhan o Went sy'n ceisio mynd i'r afael â throseddau casineb a chodi ymwybyddiaeth ohonynt wedi derbyn hyd at £500 gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (y Comisiynydd), Jeff Cuthbert.

Er mwyn derbyn y cyllid roedd rhaid i brosiectau ddangos y byddent yn defnyddio'r arian i geisio annog pobl i hysbysu am achosion o droseddau casineb, codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, magu hyder neu herio'r stereoteipiau sy'n ysgogi'r troseddau hyn.

Er mwyn tynnu sylw at y cyllid, bu'r Comisiynydd yn ymweld ag un o'r prosiectau, BGfm, i gael ei gyfweld ynghylch y gronfa ac i drafod beth roedd ei swyddfa ef a Heddlu Gwent yn ei wneud yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb eleni.

Cafodd y Comisiynydd gymorth yn y cyfweliad gan recriwtiaid diweddaraf yr Heddlu Bach ym Mlaenau Gwent a recordiodd hysbyseb ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb i gael ei chwarae trwy gydol yr wythnos.

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd y Comisiynydd Jeff Cuthbert "Mae targedu unigolyn oherwydd eich rhagfarn eich hun yn annerbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Mae trosedd casineb yn ei holl wahanol ffurfiau yn distrywio dioddefwyr a gall adael niwed corfforol ac emosiynol am flynyddoedd ar ôl y digwyddiad.

“Rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r deg prosiect hyn eleni ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith da y bydd pob un ohonynt yn ei gyflawni gyda'r arian maent wedi ei dderbyn.”

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2018 yn digwydd rhwng 13 a 20 Hydref ac mae'n codi ymwybyddiaeth o droseddau yn erbyn grwpiau agored i niwed sy'n cael eu targedu oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag atynt.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Julian Williams: “Ni fydd Heddlu Gwent yn goddef troseddau casineb ac ni ddylai neb arall eu goddef chwaith. Gall troseddau casineb ddistrywio bywydau, achosi dychryn a chwalu cymunedau.

“Rwyf wrth fy modd i weld bod ein hasiantaethau partner a grwpiau cymuned lleol yn elwa ar y grantiau a ddyfarnwyd oherwydd gyda'n gilydd gallwn annog pobl i hysbysu am droseddau casineb, cefnogi dioddefwyr a chodi ymwybyddiaeth o'r troseddau annerbyniol hyn".

Os hoffech ragor o wybodaeth am droseddau casineb neu sut i hysbysu am drosedd casineb, edrychwch ar wefan Heddlu Gwent, https://bit.ly/GwentPoliceHateCrime.