Cyhoeddi'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Heddlu Gwent wedi cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar y cyd ar gyfer 2020-2024.
Cwblhawyd y cynllun ar ôl ymgysylltiad cyhoeddus â thrigolion ledled Gwent. Ei bwrpas yw helpu'r ddau sefydliad i:
- Ddarparu gwasanaeth heddlu sy’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir;
- Meithrin diwylliant sefydliadol sy’n dangos pwysigrwydd cydraddoldeb a chynwysoldeb; a
- Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel y gall cymunedau amrywiol Gwent ei ddefnyddio’n hyderus ac ymgysylltu ag ef.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gwneud egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o bopeth mae fy swyddfa i a Heddlu Gwent yn ei wneud. Ei nod yw herio gwahaniaethu ac mae'n cysylltu â'm Cynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent, sy'n amlinellu ein blaenoriaethau plismona lleol.
“Mae’r blaenoriaethau hyn yn bwysicach nag erioed yn awr. Mae’r gwasanaeth heddlu’n plismona â chydsyniad ac mae’n rhaid i ni ennill ymddiriedaeth a hyder ein cymunedau trwy weithredu’r gyfraith yn dryloyw, yn deg ac yn foesegol.”
Cynllun Cydraddoldeb Strategol