Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n ymweld â chymunedau Gwent

14eg Mai 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn ymweld â chymunedau ar draws y rhanbarth ar ôl cael ei ail ethol ddydd Sul 9 Mai.

Mae Mr Cuthbert wedi ymweld â threfi'n cynnwys Coed-duon, Caerffili, Cwmbrân, Glynebwy, Casnewydd, Pont-y-pŵl a Thredegar i siarad â thrigolion a busnesau lleol am y materion sy’n bwysig iddynt. Mae mwy o ymweliadau â holl siroedd Gwent ar y gweill yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Manteisiodd y Comisiynydd ar y cyfle i hyrwyddo ymgyrch Dangos y Drws i Drosedd newydd Heddlu Gwent, sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â throsedd meddiangar fel byrgleriaeth a dwyn.

Dywedodd Mr Cuthbert: “Rwyf yn hynod o ddiolchgar i gael y cyfle i wasanaethu trigolion Gwent fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am dymor arall ac rwy'n teimlo ei bod yn bwysig mynd allan i'r gymuned a siarad â phobl am yr hyn sydd o bwys iddyn nhw.

"Hyd yn hyn rwyf wedi bod yn falch bod gan yr holl drigolion a busnesau rwyf wedi siarad â nhw berthynas gadarnhaol gyda'u llu heddlu lleol. Wrth reswm, mae rhywfaint o bryder ynghylch cynnydd mewn trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth i gyfyngiadau symud lacio. Mae Heddlu Gwent yn paratoi ar gyfer hyn gyda mwy o batrolau mewn ardaloedd allweddol ac maent mewn cysylltiad agos â busnesau a allai gael eu heffeithio.

"Mae tîm ymgyrch newydd Heddlu Gwent - Dangos y Drws i Drosedd - ar gael hefyd i roi cyngor atal trosedd a diogelu eiddo i gymunedau er mwyn eu helpu nhw i osgoi bod yn darged i droseddwyr. Maent yn barod i ymateb yn gyflym pan fydd byrgleriaeth yn digwydd hefyd er mwyn lleihau'r perygl i safleoedd cyfagos.

“Mae atal trosedd yn un o'r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd a, gyda’r heddlu'n gweithio mewn partneriaeth â thrigolion a busnesau i fynd i'r afael â mannau sy'n agored i fyrgleriaeth a mannau lle mae byrgleriaeth a dwyn yn broblem, rwy'n sicr y byddwn yn creu Gwent fwy diogel i bawb.”

Am ragor o wybodaeth am Dangos y Drws i Drosedd, ewch i wefan Heddlu Gwent.