Comisiynydd Heddlu A Throsedd Gwent Yn Canmol Swydd Trefnydd Ymgysylltu  Goroeswyr Newydd

10fed Hydref 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (y Comisiynydd), Jeff Cuthbert, wedi croesawu creu swydd Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr newydd yn Heddlu Gwent.

Mae'r swydd, y cyntaf o'i math yng Nghymru, wedi cael ei chreu yn dilyn argymhellion gan swyddfa'r Comisiynydd i sefydlu fframwaith cynaliadwy i ymgysylltu â goroeswyr. Bydd goroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol a phob ffurf ar drais yn erbyn menywod yn gallu rhannu eu profiadau i helpu i lunio'r gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn gan yr heddlu a phartneriaid.

Dywedodd Mr Cuthbert: “Rwy'n falch iawn i groesawu'r swydd newydd Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr i Went.

"Bydd y swydd flaengar hon yn ddolen hanfodol rhwng goroeswyr camdriniaeth, partneriaid strategol a phartneriaid sy'n rhoi cymorth gweithredol, gan roi cyfle iddyn nhw ddylanwadu'n gadarnhaol i newid polisïau a gweithdrefnau.

"Mae rhoi cymorth i bob dioddefwr trosedd yn flaenoriaeth hollbwysig yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Bydd y Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr newydd yn ein helpu ni i sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth hwnnw mewn ffordd effeithiol a chynhwysol."

Mae Heddlu Gwent yn recriwtio ar gyfer y swydd newydd ar hyn o bryd. I ddysgu mwy, ewch i http://bit.ly/2ouXJDh