Cannoedd o redwyr yn cymryd rhan yn nigwyddiad blynyddol yr heddlu
Mae cannoedd o redwyr yn cynrychioli heddluoedd ledled y DU wedi cymryd rhan yn ras 10 milltir flynyddol Police Sport UK, a oedd yn cael ei chynnal gan Heddlu Gwent eleni.
Cychwynnwyd y ras gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd, ac roedd y rhedwyr yn rhedeg cylch 10 milltir o gwmpas Rhodfa Coedwig Cwm Carn.
Cymrodd dros 380 o redwyr ran yn y ras, gyda Kieran Clements o Metropolitan Police Service yn ennill ras y dynion, a Natasha Wilson o Norfolk Constabulary yn ennill ras y merched.
Cymrodd Heddlu Bach o ysgolion ledled Gwent ran mewn ras heddlu bach arbennig cyn y prif ddigwyddiad hefyd.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn wych gweld cymaint o gynrychiolwyr o heddluoedd ledled y DU yn dod yma i gystadlu. Mae golygfeydd bendigedig yng Ngwent, ac mae'r tirlun o gwmpas Cwm Carn yn un o'r rhai mwyaf prydferth, felly roedd yn gyfle gwych i ddangos Gwent ar ei orau.
"Roedd yn gwrs caled iawn a rhaid i mi longyfarch pawb a gymrodd ran."