Cadwch yn ddiogel a dangoswch gefnogaeth i'r GIG

20fed Hydref 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi ategu galwadau ar drigolion i aros gartref lle y bo'n bosibl a chadw'n ddiogel, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am "gyfnod atal byr" o ddydd Gwener 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae'r rhain yn gyfyngiadau llym am gyfnod byr i helpu i ysgafnhau'r pwysau ar y GIG a lleihau trosglwyddiad Covid-19 yn y gymuned wrth i fisoedd y gaeaf agosáu.

"Gofynnaf yn daer ar drigolion i ddilyn y canllawiau hyn, gweithio gartref lle bynnag y bo'n bosibl a pheidio â theithio oni bai bod hynny'n hanfodol. Peidio ag ymgynnull dan do nac yn yr awyr agored gydag unrhyw un ar wahân i'r bobl rydych yn byw gyda nhw. Cewch adael eich cartref i ymarfer corff ond dylech gychwyn a gorffen yn eich cartref.

“Bydd Heddlu Gwent yn parhau ei strategaeth o addysgu ac annog i ddechrau. Fodd bynnag, mae'r cyfyngiadau hyn yn glir iawn ac os bydd rhaid i swyddogion heddlu gymryd camau gorfodi, byddant yn gwneud hynny.  

"Os bydd pawb ohonom yn talu sylw i'r rheolau yn awr, gobeithio y gallwn osgoi mwy o gyfyngiadau llymach yn y dyfodol.

“Dilynwch y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a'ch awdurdodau lleol yn ystod yr wythnosau nesaf.”