Byddwch yn amyneddgar a chwrtais wrth ymweld â fferyllfeydd

26ain Mawrth 2020

Mae Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, yn galw ar drigolion i fod yn amyneddgar a chwrtais wrth ymweld â'u fferyllfa leol, yn dilyn straeon brawychus am fferyllwyr ar draws y DU yn cael eu cam-drin ar lafar a'u bygwth gan gwsmeriaid.

Mae fferyllfeydd cymunedol yn gweld galw digynsail am eu gwasanaethau ar hyn o bryd ac mae mesurau diogelwch i amddiffyn staff a chwsmeriaid rhag Covid-19 wedi golygu, mewn rhai achosion, y bu oedi hir a phrinder stoc.

Yn anffodus, yn ôl undeb y fferyllwyr, Cymdeithas Amddiffyn y Fferyllwyr, mae hyn wedi arwain at fferyllwyr a'u staff yn cael eu cam-drin ar lafar a’u bygwth gan gwsmeriaid.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Er fy mod i’n sylweddoli bod pobl yn bryderus ac yn poeni am gael eu meddyginiaeth, mae'r straeon yr wyf i wedi'u clywed gan y gymuned fferyllol yng Ngwent yn annerbyniol.

"Ar hyn o bryd, mae fferyllwyr cymunedol yn rhan o'r amddiffyniad rheng flaen yn erbyn Covid-19. Maen nhw’n rhan hanfodol o'r gwasanaeth iechyd, yn rhoi cymorth a chyngor, a hefyd yn ceisio gwneud eu gwaith o ddydd i ddydd a darparu meddyginiaethau a gwasanaethau i drigolion.

"Rwyf wedi adrodd fy mhryderon i Brif Gwnstabl Heddlu Gwent ac wedi gofyn i dimau plismona cymdogaeth ymweld â fferyllfeydd lleol yn rhan o'u patrolau dyddiol.

"Ni ddylai unrhyw un orfod goddef camdriniaeth nac ymddygiad bygythiol yn eu swyddi. Rydym ni i gyd yn rhan o hyn gyda'n gilydd ac mae'r sefyllfa yn annhebygol o newid am sawl wythnos. Dangoswch oddefgarwch, amynedd a dealltwriaeth wrth ymweld â'ch fferyllfa leol."

Mae ei sylwadau yn dilyn datganiad gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru sydd wedi mynegi pryder am ei haelodau.

Dywedodd Helen Lewis, Swyddog Rhanbarthol Cymdeithas Amddiffyn Fferylliaeth, a fferyllydd locwm yng Nghaerffili: "Mae'r galw am wasanaethau fferylliaeth ar draws y DU yn enfawr ar hyn o bryd ac nid ydym erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg o'r blaen. Rydym yn deall y gall hyn fod yn rhwystredig i'n cleifion ond mae'r ymddygiad tuag at fferyllwyr ledled y wlad ar hyn o bryd yn gwbl warthus.

"Yn ffodus, mae'r rhan fwyaf o'n cleifion yn deall ond rwyf i fy hun wedi cael fy ngham-drin ar lafar a fy mygwth, ac rwy’n gwybod y bydd gan bob un o fy nghyd-weithwyr stori debyg.

"Hyd yn oed gyda'r mesurau diogelwch ar waith, mae fferyllwyr yn rhoi eu hunain a'u teuluoedd mewn perygl o ddal Covid-19 bob dydd. Felly, os gwelwch yn dda, helpwch ni i'ch helpu chi drwy ein trin ni â pharch."

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: "Mae hwn yn amser i'r gymuned yng Ngwent ddod at ei gilydd ond mae ymddygiad fel hyn yn bygwth ein gwahanu ni ac ni fyddwn yn goddef hynny.

"Rwy'n gofyn i swyddogion cymdogaeth ymweld â'u fferyllfeydd lleol lle bynnag y bo modd a chynnig eu cymorth ond rwy'n mawr obeithio nad oes angen i hyn fod yn fater plismona, ac y gall pobl ddychwelyd i drin ei gilydd â chwrteisi a pharch."