Blog: Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol

17eg Tachwedd 2020

Mae alcohol yn aml yn ffactor sy'n cyfrannu at droseddu.

Ers 2014 mae fy swyddfa wedi buddsoddi dros £800,000 y flwyddyn yng Ngwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent i helpu i ddarparu cymorth i droseddwyr y mae camddefnydd cyffuriau ac alcohol yn gyfrifol am eu hymddygiad.

Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos pa mor ddifrifol rydym yn ystyried y broblem a pha mor ymroddedig yr ydym i fod yn rhan o'r ateb.

Mae gweithwyr cymorth yn y dalfeydd yng ngorsafoedd heddlu Ystrad Mynach a Chasnewydd, ac yn Llys Ynadon Casnewydd hefyd. Mae hyn yn ein galluogi ni i gynnig y cymorth angenrheidiol i droseddwyr mor gynnar â phosibl.

Trwy roi sylw i broblemau alcohol, a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd meddwl mewn llawer o achosion i ymchwilio i'w hachosion isorweddol, rydym yn cynnig llwybr bywyd gwahanol i bobl ac yn atal trosedd mewn cymunedau.

Gallwch ddarllen blog diweddar gan Reolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent ar fy ngwefan.

Ond nid pobl yn y system cyfiawnder troseddol yn unig sy'n cael cymorth ganddynt.

Mae'r tîm yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy'n brwydro gyda phroblemau alcohol a chyffuriau, neu i ffrindiau a theulu sy'n cefnogi anwylyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent.