Blog gwadd: Deborah Lippiatt, Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol GDAS

27ain Hydref 2020

Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS) yn gonsortiwm sy'n cynnwys Kaleidoscope, Barod a G4S ac mae'n darparu gwasanaethau cymorth i ddefnyddwyr cyffuriau ac alcohol, eu ffrindiau a'u teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol.

Roedd y dull hwn o weithio fel consortiwm y cyntaf o'i fath yng Ngwent ac mae'n cael ei weld fel arfer gorau yn awr. Mae dwyn amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth at ei gilydd yn golygu bod defnyddwyr gwasanaeth yn gallu symud yn rhwydd rhwng gwasanaethau heb orfod aros yn hir, os o gwbl.

G4S sy'n gyfrifol am reoli'r elfen cyfiawnder troseddol ac rwyf wedi bod yn Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol ers 2009.

Rwy'n rheoli tîm o 24 o staff ac rydym yn gyfrifol am roi cymorth i droseddwyr lle mae camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn rhan uniongyrchol o'u troseddu. Os gallwn ni fynd i'r afael â'r problemau cyffuriau ac alcohol a rhoi cymorth i helpu defnyddwyr gwasanaeth i roi sylw i broblemau posibl eraill yn eu bywydau, rydym yn gobeithio y gallwn eu helpu nhw i beidio â throseddu eto yn y dyfodol.

Mae ein staff yn gweithio yn y ddalfa yng Nghasnewydd ac Ystrad Mynach, ac maen nhw'n gweithio'n agos gyda'r heddlu i geisio sicrhau ein bod yn ymweld â phob unigolyn sy'n mynd i'r ddalfa i weld a oes angen cymorth arnynt. Mae gennym swyddog cefnogi sy'n gweithio yn Llys Ynadon Casnewydd hefyd.

Pan fydd unigolion yn cytuno i dderbyn cymorth, gallwn ddarparu amrywiaeth o wasanaethau, yn dibynnu ar eu hanghenion.  Efallai bod angen eu cyfeirio at wasanaeth arall neu efallai bod angen cymorth yn y tymor byr arnynt. Os yw eu sefyllfa'n fwy dwys, efallai bod angen mynediad i raglen driniaeth arnynt. Ein nod yw cael triniaeth i'r bobl sydd ei angen a chael meddyginiaeth iddyn nhw’n gyflym, a dyna pryd mae'r gwaith go iawn yn dechrau. Yn hollbwysig, ni allwn helpu pobl oni bai eu bod yn barod i newid a’u bod eisiau cymorth gennym ni.

Pan gyrhaeddodd Covid-19, a chyflwynwyd y cyfyngiadau symud yn y wlad, roeddem yn bryderus iawn am ein defnyddwyr gwasanaeth a staff. Mae ein gwaith yn ddibynnol ar weld pobl wyneb yn wyneb er mwyn meithrin perthynas â nhw ac roedd y tîm yn pryderu am golli'r agosatrwydd hwnnw ar adeg pan oeddem yn cael cyfarwyddyd i gadw draw. Fodd bynnag, gwnaethom gytuno bod rhaid i ni geisio parhau i weithredu hyd eithaf ein gallu o dan yr amgylchiadau.

Roedd llai o ymgysylltu wyneb yn wyneb ond roeddem yn dal yn gallu gwasanaethu mewn dalfeydd heddlu trwy ffonio'r celloedd a siarad â phobl. Gwnaethom barhau i gysylltu â'n holl ddefnyddwyr presennol a danfon meddyginiaeth at ddefnyddwyr gwasanaeth fel nad oedd rhaid iddyn nhw deithio atom ni.

Yn ddiddorol, gwnaethom ganfod bod defnyddwyr gwasanaeth nad oeddent yn ymgysylltu â ni cyn Covid wedi dechrau ymgysylltu'n rheolaidd am nad oedd rhaid iddynt deithio. Roedd yn achubiaeth i lawer o'n cleientiaid sy'n ynysig ac ar eu pennau eu hunain.

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu gyda mwy o ymgysylltu wyneb yn wyneb a chyswllt uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth yn awr, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ein cleientiaid a sicrhau ein bod ar gael iddyn nhw a’n hasiantaethau partner.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bob sefydliad ond mae'n anhygoel sut gallwch newid ac addasu wrth gydweithio a chyd-dynnu.