Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr

24ain Ionawr 2020

Mae’r Arolwg Troseddu diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos bod Gwent yn dal i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU - www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/bulletins/crimeinenglandandwales/yearendingseptember2019 

Bu cynnydd bach mewn troseddau a gofnodwyd rhwng mis Medi 2018 - 19. Rwyf wedi cael sicrwydd y gellir priodoli hyn i welliannau mewn arferion cofnodi a mwy o hyder ymysg dioddefwyr i hysbysu Heddlu Gwent am droseddau.

Mae'r ffigyrau yn dangos cynnydd ledled y DU mewn achosion o dwyll, sy'n cael ei yrru gan dwyll yn ymwneud â chardiau banc a chardiau credyd.

Os ydych chi wedi dioddef twyll ar-lein, dylech hysbysu'r asiantaeth genedlaethol Action Fraud ar 0300 123 2040. Bydd Action Fraud yn cysylltu â Heddlu Gwent fel y bo'n briodol.

Mae Heddlu Gwent yn cynnig amrywiaeth o gyngor ar gadw'n ddiogel ar-lein ar y wefan hefyd.