Allan ac o gwmpas: Tredegar

22ain Mai 2023
Roeddwn yn falch i gwrdd â Thîm Cymdogaeth Blaenau Gwent a thrigolion Tredegar i glywed am broblemau lleol.
Mae beicio oddi ar y ffordd yn broblem o hyd.

Roeddwn yn falch o glywed bod swyddogion a phartneriaid yn cymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael â’r broblem, nid yn unig ym Mlaenau Gwent ond ar draws pob un o fwrdeistrefi Gwent.

Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ceisio mynd i’r afael ag ef yn rhagweithiol gyda’n partneriaid yn yr awdurdod lleol.
Yn ddiweddar gwnaethom fuddsoddi arian o Gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref i dalu am swydd gweithiwr ieuenctid i geisio ymgysylltu â phobl ifanc ym mhob ardal yn Nhredegar lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael ei riportio.

Mae problemau eraill fel parcio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn achosi gofid i drigolion.

Nid yw Heddlu Gwent yn gallu mynd i’r afael â’r problemau hyn i gyd ar ei ben ei hun. Rwy’n gwybod bod Heddlu Gwent yn gweithio gyda phartneriaid i roi sylw i’r problemau hyn.