COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU GWENT A PHRIF GWNSTABL GWENT
ARCHWILIO CYFRIFON 2025/2026
Rhoddir rhybudd drwy hyn yn unol ag Adrannau 29 a 30 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ac fel y manylir ymhellach yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014):
- O 4 Awst 2026 hyd at 31 Awst 2026 yn gynwysedig, rhwng 10.00 a.m. a 5.00 p.m. (dydd Llun i ddydd Iau yn unig) a rhwng 10.00 a.m. a 4.00 p.m. (dydd Gwener yn unig), gall unrhyw un sydd â diddordeb, drwy wneud cais i’r Adran Gyllid, Pencadlys yr Heddlu, Llantarnam Park Way, Llantarnam, Cwmbrân, NP44 3FW arolygu a gwneud copïau o gyfrifon Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a chyfrifon Prif Gwnstabl Gwent am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024 ynghyd â phob llyfr, gweithred, contract, bil, taleb a derbynneb sy’n berthnasol iddynt. Er mwyn ein cynorthwyo i wneud trefniadau priodol, byddai o gymorth pe gallai unrhyw un sydd â diddordeb ein hysbysu ymlaen llaw eu bod yn bwriadu archwilio’r cyfrifon a dogfennau.
- Am 9.00 a.m. ar 1 Medi 2026 neu wedi hynny, bydd yr Archwilydd Penodedig, Adrian Crompton, o 24 Cathedral Road, Caerdydd CF11 9LJ ym Adran Gyllid, Pencadlys yr Heddlu, Llantarnam Park Way, Llantarnam, Cwmbrân, NP44 3FW, (ac wedi hynny hyd nes y bydd yr Archwilydd yn ardystio bod yr Archwiliad wedi’i gwblhau), ar gais unrhyw etholwr llywodraeth leol o’r ardal y mae cyfrifon o’r fath yn berthnasol iddo, neu ei gynrychiolydd/ei chynrychiolydd, yn rhoi cyfle iddynt ei holi am y cyfrifon a gall unrhyw etholwr o’r fath neu ei gynrychiolydd/ei chynrychiolydd ddod gerbron yr Archwilydd a chynnig gwrthwynebiadau:
i. ynglŷn ag unrhyw fater y gallai’r Archwilydd weithredu arno yn unol ag Adrannau 17 neu 18 o’r Ddeddf (sef eitem cyfrif anghyfreithlon, methu ag ystyried swm, neu golled neu ddiffyg a achoswyd gan gamymddwyn bwriadol)
ii. ynglŷn ag unrhyw fater y gallai’r Archwilydd adrodd arno er lles y cyhoedd o dan Adran 22 o’r Ddeddf. - Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad o’r fath oni bai bod yr Archwilydd wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig yn flaenorol o’r gwrthwynebiad a sail y gwrthwynebiad; a bod copi o rybudd o’r fath yn cael ei anfon at y sawl a enwir isod.
| DARREN GARWOOD-PASK Prif Swyddog Cyllid Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent |
MATTHEW COE Prif Swyddog Cyllid Heddlu Gwent |