Bwriadau comisiynu 2025-26
Uchafbwyntiau comisiynu 2024-25
- Atal Trosedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Gwneud ein Cymunedau'n Fwy Diogel
- Amddiffyn Pobl Agored i Niwed
- Rhoi Blaenoriaeth i Ddioddefwyr
- Lleihau Aildroseddu
Cyflwyniad
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (y Comisiynydd), a etholir gan y cyhoedd, yn gyfrifol am bennu blaenoriaethau plismona ar gyfer Heddlu Gwent drwy'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu blaenoriaethau'r Comisiynydd yn ystod y cyfnod, gan ddarparu'r cyd-destun a'r cyfeiriad ar gyfer comisiynu.
Yn flynyddol, mae'r Comisiynydd yn comisiynu portffolio o wasanaethau ac ymyraethau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan ddarparwyr allanol trwy grantiau, contractau neu gyfraniadau i sefydliadau partneriaeth.
Mae'r ddogfen hon yn cyflwyno gwybodaeth fanwl am y portffolio sydd i'w gomisiynu ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, gan gynnwys y sefydliadau dan sylw, y gwasanaethau a ddarperir, a swm y cyllid sydd wedi’i ddyrannu i bob blaenoriaeth. Mae'r argymhellion wedi'u datblygu drwy ymgysylltu â Heddlu Gwent a phartneriaid allanol, ac maent wedi'u cymeradwyo drwy drefniadau llywodraethu mewnol, a chafwyd cadarnhad terfynol gan Fwrdd Rheoli Strategol y Comisiynydd.
Cyllideb comisiynu 2025-26
Yn flynyddol, mae'r Comisiynydd yn derbyn grant 'craidd' gan y Swyddfa Gartref, y praesept plismona lleol ac incwm arall y mae gan y Comisiynydd yr hawl i'w dderbyn. Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i Heddlu Gwent ar gyfer darparu gwasanaethau plismona. Mae cyllideb lai yn cael ei chadw ar gyfer cyflawni swyddogaethau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd). Bydd gwasanaethau comisiynu yn cael eu comisiynu o gyllideb yr Heddlu a Swyddfa'r Comisiynydd. Yn flynyddol, mae'r Comisiynydd hefyd yn derbyn Grant Gwasanaethau Dioddefwyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gomisiynu Gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr yng Ngwent.
Mae'r Comisiynydd hefyd yn denu cyllid allanol gan asiantaethau fel y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu Lywodraeth Cymru. Gall hyn fod yn gyllid ar sail tymor byrrach i ymdrin â meysydd neu fentrau penodol sy'n peri pryder, yn ogystal â chyllid gan bartneriaid ar gyfer gwasanaethau a gyd-gomisiynwyd.
Yn 2025/26 cyllideb gomisiynu'r Comisiynydd ar gyfer gwasanaethau comisiynu yng Ngwent yw £7.423m, yn seiliedig ar ffrydiau cyllido a gadarnhawyd ar gyfer y flwyddyn, ac mae hyn yn cynnwys y ffrydiau incwm a'r gwerthoedd a ddangosir yn y siart gylch.
- Cyllideb Swyddfa'r Comisiynydd: £3,969,065.14 / 52%
- Y Weinyddiaeth: £1,246,466 / 16%
- Cyfiawnder Swyddfa Gartref: £1,828,186 / 24%
- Llywodraeth Cymru: £470,040.36 / 6%
- Elw Trosedd: £150,000 / 2%
Yn ogystal â'r cyllid hwn, mae gennym hefyd incwm o £2.466m gan sefydliadau partner lle rydym yn cyd-gomisiynu gwasanaethau gyda nhw ar draws tirwedd ddaearyddol ehangach neu'n comisiynu gwasanaethau gwahanol ond cyflenwol o dan un contract.
Yn dilyn cytundeb Praesept y Dreth Gyngor mae £1m arall ar gael i'w fuddsoddi mewn cyflawni blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder ar gyfer 2025-26 a thu hwnt. Mae gwaith ar y gweill i benderfynu sut y bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddyrannu a gall gynnwys comisiynu gwasanaethau ac ymyraethau ychwanegol.
Uchafbwyntiau comisiynu 2024 - 25
- Dyfarnwyd a rheolwyd 54 o gontractau a grantiau ar gyfer gwasanaethau a gomisiynwyd gyda chyfanswm buddsoddiad o £4.7m. Cafodd pum grant llywodraeth gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref gwerth cyfanswm o £3.25m eu rheoli'n llwyddiannus.
- Derbyniwyd 4,667 o atgyfeiriadau ar gyfer Gwasanaethau i Ddioddefwyr a Gomisiynwyd. Yn gyffredinol, roedd 87% o'r dioddefwyr a gafodd gymorth o'r farn eu bod mewn sefyllfa well i allu ymdopi ag agweddau ar fywyd bob dydd, o ganlyniad i dderbyn cymorth gan un o'n Gwasanaethau a Gomisiynwyd.
- Gwnaed 1,455 o atgyfeiriadau i ymyraethau ar gyfer troseddwyr. Yn gyffredinol, roedd 77% o droseddwyr a dderbyniodd ymyrraeth yn gallu gwneud cynnydd tuag at gyflawni un neu fwy o ganlyniadau, gan gynnwys eu defnydd o sylweddau, eu lles, eu diogelwch a'u perthnasoedd.
- Mae 15 o brosiectau wedi'u cyflawni drwy Gronfa Gymunedol yr Heddlu, sy'n cefnogi bron i 3000 o blant sydd mewn perygl o fynd i'r system cyfiawnder troseddol neu sydd wedi dioddef trosedd i gyflawni canlyniadau gan gynnwys gwella eu hyder a'u lles; ehangu eu gorwelion a chyflawni ymdeimlad o berthyn i gymuned ar y cyd.
- Cafodd dau wasanaeth a gyd-gomisiynwyd eu creu – Gwasanaethau Menywod ac Oedolion Ifanc a'r Gwasanaeth Cyngor Annibynnol ar Drais Rhywiol ac ail-gomisiynwyd un gwasanaeth i sicrhau darparwr ar gyfer y Gwasanaethau i Ddioddefwyr ar gyfer Plant ac Oedolion yng Ngwent, gan ddod â'r ddarpariaeth gwasanaethau i oedolion a phlant ynghyd o dan un contract o 25 Ebrill ymlaen.
- Defnyddiwyd 62% o'n gwasanaethau gan fenywod, ac roedd 77% o'r defnyddwyr gwasanaeth rhwng 18 a 54 oed. Dywedodd 32% fod ganddynt anabledd. O'r rhai a adroddodd eu ethnigrwydd roedd 69% yn Wyn a 4% o Dreftadaeth Ethnig. (Nid yw'r ddemograffeg hon yn ystyried ein gwasanaethau a'n hymyraethau a ariennir gan grant sy'n cyrraedd cymunedau eang ac amrywiol ledled Gwent.)
Bwriadau comisiynu 2025-26
Mae'r adran ganlynol yn amlinellu'r gwasanaethau a'r ymyraethau y bwriedir eu comisiynu yn 2025/26 o dan bob un o Flaenoriaethau'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Y bwriad yw bod cyllid yn cael ei ddyrannu'n deg ac yn gymesur i ystod o sefydliadau a mentrau ledled Gwent, gan ystyried y cyllid sydd ar gael a'i gylch gwaith, yr angen a nodwyd a'r canlyniadau a ddymunir er mwyn cyflawni'r buddsoddiad mwyaf effeithiol a chynaliadwy. Bydd nifer o wasanaethau ac ymyraethau yn cyflawni yn erbyn blaenoriaethau mwy nag un golofn, fodd bynnag, mae pob gwasanaeth a gomisiynwyd wedi'i ddyrannu o dan brif Golofn. Er enghraifft, mae gwariant ar Amddiffyn Pobl Agored i Niwed yn edrych yn isel ond bydd nifer o'r gwasanaethau wedi’u dyrannu o dan y colofnau Rhoi Blaenoriaeth i Ddioddefwyr a Lleihau Aildroseddu yn cefnogi'r Golofn hon yn uniongyrchol hefyd.
Dangosir gwariant arfaethedig yn erbyn pob colofn, fel y maent wedi’u dyrannu yn y tablau isod, yn y tabl isod. Mae hyn yn eithrio'r gyllideb newydd o £1m sydd heb ei dyrannu.
- Lleihau aildroseddu: £2,126,885
- Gwnued ein cymunedau'n fwy diogel: £1,792,852
- Rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr: £1,394,241
- Atal trosedd ac Ymddygiad gwrthgymdeithasol: £846,082
- Amddiffyn pobl agored i niwed: £44,930
Pan fo'r angen i sicrhau gwasanaeth gan ddarparwr allanol wedi'i nodi, bydd y gofynion gwasanaeth yn cael eu hyrwyddo drwy gyhoeddi Gwahoddiad i Dendro, neu lansio cronfa grant. Bydd darparwyr posibl yn cyflwyno cynigion a fydd yn cael eu hasesu, a bydd argymhellion yn cael eu gwneud i'r Comisiynydd am benderfyniad. Bydd y darparwr llwyddiannus yn cael ei hysbysu, a bydd cytundeb yn cael ei roi ar waith, mewn perthynas â Thelerau ac Amodau'r cyllid a ddarperir.
Pan fo'r gofyniad yn cael ei fodloni drwy bartneriaeth neu yn cael ei gyd-gomisiynu ac nad ni sy’n arwain y gwaith o sicrhau'r darparwr, efallai y bydd angen datblygu cytundeb cydweithredu rhwng y partneriaid comisiynu a phan fo'r prosiect neu'r gwasanaeth i'w ddarparu yn fewnol, defnyddir dull rheoli prosiect i weithredu a chyflawni'r canlyniadau, gan gynnwys sefydlu tîm y prosiect, datblygu cynllun prosiect a chyflawni'r prosiect.
Atal Trosedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Gwasanaeth / ymyrraeth: Y Gronfa Effaith Gadarnhaol
Trosolwg: Bydd y gronfa hon yn rhoi cymorth i grwpiau a sefydliadau sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau yng Ngwent ac sy'n cyflawni blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £50,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cronfa Gymunedol yr Heddlu
Trosolwg: Bydd y gronfa hon yn galluogi pobl yng Ngwent i fod yn ddiogel, yn iach, ac yn hapus, gan adeiladu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain a'u cymunedau, trwy ymdrin â phroblemau yn y gymuned mewn ffordd barhaus ac effeithiol.
Dyraniad cyllideb: £500,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cronfa'r Uchel Siryf
Trosolwg: Nod y cyfraniad hwn i Gronfa'r Uchel Siryf yw rhoi ansawdd bywyd mwy diogel a gwell i bobl Gwent, yn arbennig plant a phobl ifanc, trwy gefnogi mentrau a phrosiectau yn y gymuned sy'n lleihau trosedd ac yn gwella diogelwch cymunedol.
Dyraniad cyllideb: £65,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: Dyfodol Cadarnhaol - Casnewydd Fyw
Trosolwg: Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu gweithgareddau dargyfeiriol sy'n galluogi plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed ac mewn perygl i wireddu eu potensial. Mae Dyfodol Cadarnhaol yn gweithio ledled Gwent ac yn derbyn atgyfeiriadau gan y gymuned a gan bartneriaid. Caiff gweithgareddau chwaraeon grŵp eu darparu'n wythnosol. Yn ystod y sesiynau mae staff y prosiect yn treulio amser yn meithrin perthynas â'r rhai sy'n cymryd rhan ac yn siarad am y ffactorau risg mae'r person ifanc yn eu dangos. Mae'r gweithgareddau cymysg wedi'u creu'n bwrpasol ar gyfer grŵp a sesiynau un i un. Mae staff y rhaglen yn ymarferwyr ieuenctid cymwys.
Dyraniad cyllideb: £203,582
Gwasanaeth / ymyrraeth: Strydoedd Saffach 5
Trosolwg: Caiff y prosiect hwn ei ariannu'n uniongyrchol gan y Swyddfa Gartref i ymdrin â throsedd cymdogaeth, trais yn erbyn menywod a merched ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd y ffrwd ariannu hon yn dod i ben, ac na fydd cyllid ar gyfer 2025-26.
Dyraniad cyllideb: £0
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan
Trosolwg: Nod y cydweithrediad hwn yw hwyluso ymgysylltu effeithiol rhwng heddluoedd Cymru a phrifysgolion yng Nghymru i gynnal ymchwil sy'n gwella bywydau pobl Cymru.
Cytunodd Plismona yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2024 i gyflwyno cyllid am flwyddyn hyd at 2025-26 ar gyfer gwaith pellach i'w wneud i ganfod gwerth y gwaith hwn ar sail Cymru gyfan.
Dyraniad cyllideb: £10,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: Plismona yng Nghymru
Trosolwg: Cyd-gysylltydd Cymru Gyfan ar gyfer Plismona yng Nghymru sy'n gyfrifol am gyd-gysylltu a rheoli comisiynwyr yr heddlu a throsedd, partneriaeth a chydweithredu ar sail Cymru a'r Deyrnas Unedig gyfan. Bydd y rôl yn rhoi cyngor a chymorth o ansawdd da i gefnogi pob elfen ar gydweithredu, gan sicrhau llywodraethu, craffu a gweithgarwch cydymffurfiaeth / perfformiad da.
Dyraniad cyllideb: £17,500
Gwneud ein Cymunedau'n Fwy Diogel
Gwasanaeth / ymyrraeth: Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
Trosolwg: Bydd cyfraniad yn cael ei wneud at waith partneriaethau diogelwch cymunedol, sy'n gweithio i ddarparu prosiectau a gwasanaethau ar draws y pum awdurdod lleol. Mae dyraniad o £263,195 o gyllid uniongyrchol y Comisiynydd wedi’i bennu ar gyfer y ffrwd ariannu hon. Bydd pob partner awdurdod lleol yn llenwi ffurflen gynnig yn amlinellu ei fwriad ynghylch sut y bydd y dyraniad yn cael ei wario ac yn darparu adroddiad monitro pob chwe mis.
Mae'r dyraniad i bob awdurdod lleol unigol yn seiliedig ar fformiwla y cytunwyd arno fel a ganlyn:
• Cyngor Dinas Casnewydd - £71,782
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili £68,649
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen £45,413
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent £37,882
• Cyngor Sir Fynwy - £39,469
Dyraniad cyllideb: £263,195
Gwasanaeth / ymyrraeth: Ymyraethau Trais Difrifol a Throseddau Cyfundrefnol
Trosolwg: Bydd dyraniad yn cael ei wneud i ariannu dwy ymyrraeth sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ledled Gwent i ymdrin â thrais difrifol a throseddau cyfundrefnol. Bydd y ddau sefydliad yn llenwi ffurflen gynnig i amlinellu eu cyflwyniad a fydd yn cael ei fonitro bob tri mis trwy gydol y flwyddyn.
£138,114 i Ymddiriedolaeth St Giles sy'n darparu cymorth ac yn diogelu pobl ifanc sy’n agored i niwed sy'n ymwneud â throseddu.
£45,947 i Crimestoppers (Rhaglen Fearless) sy'n addysgu plant a phobl ifanc am y niwed a achosir gan drais difrifol a throseddau cyfundrefnol.
Dyraniad cyllideb: £184,061
Gwasanaeth / ymyrraeth: Ymyraethau'r Ddyletswydd Trais Difrifol
Trosolwg: Darperir y Cyllid Dyletswydd Trais Difrifol i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i gefnogi partneriaid i weithio gyda'i gilydd i leihau troseddau treisgar, gan gynnwys cam-drin domestig a throseddau rhywiol; a rhoi sylw i wraidd achosion trais difrifol. Mae cyflwyno'r Ddyletswydd Trais Difrifol trwy Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 yn rhoi cyfrifoldeb ar y Comisiynydd i ddwyn partneriaid at ei gilydd a gweinyddu'r cyllid cysylltiedig.
Dyraniad cyllideb: £259,740
Gwasanaeth / ymyrraeth: Prif Fannau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Trosolwg: Mae'r rhaglen Prif Fannau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn fenter gan y Llywodraeth sy’n sicrhau mwy o bresenoldeb gan yr heddlu ac mewn iwnifform mewn ardaloedd â lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn 2025-26 derbyniodd Gwent £999,388.
Dyraniad cyllideb: £1,000,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru
Trosolwg: Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yw'r llais strategol sy'n hyrwyddo ac yn cysylltu pawb sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol er mwyn iddynt allu creu cymunedau mwy diogel – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Bydd cyfraniad o £20,000 yn cael ei wneud i gefnogi gwaith Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
Cytunodd Plismona yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2024 i gyflwyno cyllid am flwyddyn hyd at 2025-26 ar gyfer gwaith pellach i'w wneud i ganfod gwerth y gwaith hwn ar sail Cymru gyfan.
Dyraniad cyllideb: £20,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cyllideb graidd nas dyrannwyd
Trosolwg: Yn y blynyddoedd blaenorol, dyrannwyd hwn i fentrau diogelwch cymunedol gan gynnwys cyfraniad tuag at arweinydd diogelwch cymunedol rhanbarthol, swydd Tân ac Achub De Cymru a Dadansoddwr Gwent Mwy Diogel, nad yw pob un ohonynt wedi'u hariannu ar hyn o bryd, felly mae cyfle i ailddyrannu hwn i fentrau amgen presennol neu newydd. Gellid symud y gyllideb hefyd i gefnogi colofn wahanol o Gynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £66,469
Amddiffyn Pobl Agored i Niwed
Gwasanaeth / ymyrraeth: Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Trosolwg: Datblygwyd Fframwaith Glasbrint VAWDASV i gefnogi cyflawni Strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru, gan greu strwythur llywodraethu ar y cyd a chynllun gweithredu sy'n tynnu ynghyd bartneriaid o gyrff cyhoeddus, sector preifat ac arbenigol i gyflwyno dull system gyfan ar y cyd.
Ym mis Rhagfyr 2024 cytunodd Plismona yng Nghymru i gyflwyno cyllid am flwyddyn hyd at 2025-26 ar gyfer gwaith pellach i'w wneud i ganfod gwerth y gwaith hwn ar sail Cymru gyfan.
Dyraniad cyllideb: £38,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru - Rhaglen Swyddfa'r Comisiynydd
Trosolwg: Cyfraniad tuag at Swyddog Polisi yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru i arwain ar gontract Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol newydd a rhaglen waith ehangach Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru ar ran Comisiynwyr De Cymru, Gwent a Dyfed Powys.
Dyraniad cyllideb: £6,930
Rhoi Blaenoriaeth i Ddioddefwyr
Gwasanaeth / ymyrraeth: Gwasanaethau Dioddefwyr ar gyfer Oedolion a Phlant - Cymorth i Ddioddefwyr
Trosolwg: Mae'r Comisiynydd yn derbyn grant Gwasanaethau Dioddefwyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae'n ofynnol iddi gomisiynu gwasanaethau i gefnogi pobl i ymdopi ac adfer o'r niwed y maent wedi'i brofi fel dioddefwr trosedd. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gomisiynu i ddarparu gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr a thystion troseddau yng Ngwent. Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi derbyn contract rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2028 i ddarparu cymorth parhaus i ddioddefwyr sy’n oedolion a phlant.
Dyraniad cyllideb: £409,155
Gwasanaeth / ymyrraeth: Uned Gofal Dioddefwyr – Heddlu Gwent
Trosolwg: Mae Uned Gofal Dioddefwyr yn cael ei gweithredu gan Heddlu Gwent ac mae'n asesu ac yn brysbennu dioddefwyr sy'n dod i gysylltiad â'r Heddlu. Bydd cyfraniad yn cael ei wneud at ddarparu'r gwasanaeth hwn gan Grant Gwasanaethau Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £135,214
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol – New Pathways
Trosolwg: Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gomisiynu i ddarparu Eiriolaeth Trais Rhywiol Annibynnol i ddioddefwyr o unrhyw oedran neu ryw yr effeithir arnynt gan drais rhywiol, i'w cefnogi i ymdopi ac adfer o'u profiad. Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan New Pathways o dan gontract rhwng Gorffennaf 2024 a Mawrth 2027, wedi'i ariannu gan grant Gwasanaethau Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae'n gontract ar y cyd rhwng swyddfeydd comisiynwyr yr heddlu a throsedd De Cymru, Gwent a Dyfed Powys. Mae cyfraniad Swyddfa'r Comisiynydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Grant Gwasanaethau Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £510,734
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol – Cyngor Dinas Casnewydd
Trosolwg: Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gomisiynu i gyd-gysylltu cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig dros 16 oed sydd wedi eu hasesu i fod yn risg uchel. Bydd y gwasanaeth yn gwella eu diogelwch, eu hiechyd a'u lles a'u gallu i ymdopi â bywyd bob dydd. Mae Bwrdd Comisiynu Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent, y mae'r Comisiynydd yn aelod ohono, yn gyfrifol am gyflawni strategaethau cam-drin domestig lleol ac mae partneriaid allweddol o'r bwrdd hwn wedi cytuno i ariannu gwasanaeth Cyngor Annibynnol ar Drais Domestig rhanbarthol ledled Gwent. Bydd grant blynyddol yn cael ei ddarparu i Gyngor Dinas Casnewydd i gyfrannu at ddarparu'r gwasanaeth. Mae cyfraniad Swyddfa'r Comisiynydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Grant Gwasanaethau Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £156,363
Gwasanaeth / ymyrraeth: TABW – Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro
Trosolwg: Mae'r gwasanaeth hwn yn sicrhau bod dioddefwyr cam-drin domestig a gyflawnwyd gan yr heddlu yn derbyn eiriolaeth a chefnogaeth briodol trwy gyflogi dau ymgynghorydd Trais a Gyflawnwyd gan yr Heddlu annibynnol. Mae hyn yn gynnydd o 1.5 yn 2024-25 er mwyn cwrdd â'r galw am y gwasanaeth. Mae'n wasanaeth treialu sy'n cael ei gomisiynu ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru. Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro yw'r gwasanaeth arweiniol sy'n cynnal ac yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am y cynllun treialu ac yn gweithio'n agos iawn gyda Cyfannol, y darparwr gwasanaeth yng Ngwent.
Dyraniad cyllideb: £35,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: TABW – Gweithiwr Achos Ysgogi
Trosolwg: Swydd i weithio gyda Heddlu sy'n Cyflawni Cam-drin Domestig, i redeg ochr yn ochr â'r gwasanaeth TABW ar gyfer dioddefwyr, yn canolbwyntio’n benodol ar droseddwyr a gyflogir neu a gyflogwyd yn flaenorol gan Heddlu De Cymru a Gwent. Treial wedi'i ariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru. Mae gwerthusiad o broses yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Brifysgol De Cymru i ddeall a chyfleu ei ddyluniad, ei weithrediad a'i gyflawniad. Bydd hyn yn helpu i lywio'r hyn sy’n cael ei ddysgu fel beth sydd wedi gweithio'n dda a pham; a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i benderfynu a oes angen buddsoddiad pellach. Felly, nid oes unrhyw gyllid pellach yn cael ei ddyrannu ar hyn o bryd.
Dyraniad cyllideb: £0
Gwasanaeth / ymyrraeth: Llwybr Llys Teulu
Trosolwg: Mae'r model Llwybr Llys Teulu yn treialu dull datrys problemau at achosion cyfraith breifat, sy’n canolbwyntio’n benodol ar wella ymateb y llys i'r rhai yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig a’i nod yw rhoi pwyslais ar lais y plentyn mewn achosion.
Derbyniodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru hysbysiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod y dyraniad grant o £342,000 ar gyfer Braenaru De-ddwyrain Cymru wedi'i ymestyn tan 31 Mawrth 2026. Mae'r cyllid yn cael ei dalu'n uniongyrchol i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru o'r Swyddfa Gartref sy'n ariannu Safer Merthyr Tydfil i'w gyflawni mewn partneriaeth â Phoenix DAS yng Ngwent.
Dyraniad cyllideb: £0
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cyllideb Graidd Dioddefwyr nas dyrannwyd
Trosolwg: Dyrannwyd y gyllideb hon i'r gwasanaeth Cyngor Annibynnol ar Drais Domestig wrth osod y gyllideb, ond mae cytundeb rhwng partneriaid yn golygu bod Awdurdodau Lleol wedi cytuno i gymryd yr awenau lle'r oedd disgwyl i Gyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ddod i ben ar ôl diwedd y cytundeb grant dros dair blynedd. Mae'r cyllid hwn wedi cael ei barhau am 12 mis gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n golygu y bydd ein cyfraniad i'r gwasanaeth Cyngor Annibynnol ar Drais Domestig yn cael ei dalu o gyllid penodol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol gan ryddhau'r dyraniad hwn o'r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2025-26.
Dyraniad cyllideb: £147,775
Lleihau Aildroseddu
Gwasanaeth / ymyrraeth: One Wales - Gwasanaeth Menywod ac Oedolion Ifanc – The Nelson Trust
Trosolwg: Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfle i ddargyfeirio pobl oddi wrth y System Cyfiawnder Troseddol trwy ddatrysiadau y tu allan i'r llys ac ymgysylltu gwirfoddol, gyda'r nod o leihau aildroseddu trwy roi sylw i angen sy'n debygol o arwain at drosedd trwy asesu a rhoi cymorth i fenywod ac oedolion ifanc 18-25 oed.
Dyfarnwyd y contract presennol i The Nelson Trust ym mis Ebrill 2024 tan fis Mawrth 2027 ac mae wedi’i gomisiynu ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Mae Gwasanaethau Adsefydlu Cymunedol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â'r gwasanaeth dargyfeirio menywod ac oedolion ifanc.
Dyraniad cyllideb: £349,032
Gwasanaeth / ymyrraeth: Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent - G4S (fel is-gontractwr Kaleidascope)
Trosolwg: Mae'r gwasanaeth yn rhoi cymorth i'r bobl hynny yn y system cyfiawnder troseddol sydd angen rhoi sylw i'w camddefnydd o sylweddau gyda'r nod o leihau aildroseddu. Mae Swyddfa'r Comisiynydd yn comisiynu elfen cyfiawnder troseddol y gwasanaeth gyda'r gwasanaeth Prawf, ochr yn ochr â'r gwasanaeth camddefnyddio sylweddau mynediad agored yng Ngwent. Caiff y gwasanaeth ei gomisiynu trwy Gyngor Casnewydd a Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gwent. Cafodd y gwasanaeth ei ail gomisiynu ym mis Ebrill 2022 ac mae'r contract i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2026.
Dyraniad cyllideb: £901,071
Gwasanaeth / ymyrraeth: Rhaglen Cautioning and Relationship Abuse (CARA) – Safer Merthyr Tydfil
Trosolwg: Mae hon yn rhaglen ymyrraeth gynnar i gyflawnwyr sy'n gallu rhoi sylw i ymddygiad amhriodol trwy ddatrysiad y tu allan i'r llys i gyflawnwyr cam-drin domestig, gyda'r bwriad o leihau aildroseddu a niwed. Caiff ei chomisiynu ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru. Mae'n cael ei darparu dan drwydded gan Safer Merthyr Tydfil, a fydd yn gweithio gyda Phoenix DAS. Datblygwyd CARA gan Hampton Trust ac maen nhw'n rhoi cymorth i bartneriaid cyflawni i sefydlu'r gwasanaeth a'i redeg yn barhaus. Bydd hyn yn cael ei ariannu gan Gronfa Ymyraethau Cyflawnwyr Cam-drin Domestig y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru. Mae £50,000 wedi cael ei ddyrannu i sicrhau'r cyllid a bydd angen i ni gyflwyno cynnig diwygiedig ar gyfer cyflawni canlyniadau, ynghyd â chyllideb.
Dyraniad cyllideb: £50,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: MATAC
Trosolwg: Tîm o Heddlu Gwent yw MATAC (Multi Agency Tasking and Coordination) a sefydlwyd i adnabod ac ymdrin â throseddwyr cam-drin domestig risg uchel yn rhan o gais am arian o Gronfa Ymyraethau Troseddwyr Cam-drin Domestig y Swyddfa Gartref. Mae £519,059 wedi cael ei ddyrannu, i sicrhau'r cyllid a bydd angen i ni gyflwyno cynnig diwygiedig ar gyfer cyflawni canlyniadau, ynghyd â chyllideb.
Dyraniad cyllideb: £519,058
Gwasanaeth / ymyrraeth: Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
Trosolwg: Cyfraniad at waith partneriaid diogelwch cymunedol allweddol sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu prosiectau a gwasanaethau ledled y pum awdurdod lleol, a fydd yn helpu i gyflawni blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Gwneir y dyraniad blynyddol i bob Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid yn seiliedig ar fformiwla gytûn, a'r dyraniad ar gyfer pob Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid fydd:
- Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Sir Fynwy a Thorfaen £66,602
- Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili £89,025
- Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Casnewydd £69,325
Dyraniad cyllideb: £224,952
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cydgysylltydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
Trosolwg: Mae'r cyfraniad hwn yn cefnogi trefniadau Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, sy'n dwyn partneriaid cyfiawnder troseddol yng Nghymru at ei gilydd gyda'r nod o leihau troseddu a gwneud cymunedau'n fwy diogel trwy gyflawni canlyniadau a phrofiadau gwell i'r rheini sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, boed hynny fel dioddefwyr, tystion, neu droseddwyr. Mae'r cyllid yn cyfrannu at swydd Cydgysylltydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a swydd gefnogi; ac yn darparu cyllideb heb gyflogau i gefnogi gwaith y Bwrdd.
Dyraniad cyllideb: £10,000
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth a'r Panel Goruchwylio ac Ymgynghori Annibynnol
Trosolwg: Mae'r cyfraniad hwn yn cefnogi rhoi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar waith. Mae'r Cynllun Cyfiawnder Troseddol yn gweithio gyda Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ar 7 Mehefin 2022, i sicrhau bod system gyfan yn cael ei rhoi ar waith - un ymateb gwasanaeth cyhoeddus i hiliaeth yng Nghymru.
Cytunodd Plismona yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2024 i gyflwyno cyllid am flwyddyn hyd at 2025-26 ar gyfer gwaith pellach i'w wneud i ganfod gwerth y gwaith hwn ar sail Cymru gyfan.
Dyraniad cyllideb: £22,772
Gwasanaeth / ymyrraeth: Cyllideb graidd Troseddwyr nas dyrannwyd
Trosolwg: Nid oedd disgwyl i gyllid cyflawnwyr cam-drin domestig ar gyfer CARA a MATAC barhau yn 2025-26 a gan hynny dyrannwyd £50,000 yn y gyllideb graidd er mwyn parhau i ddarparu CARA. Gan fod y cyllid o'r Gronfa Cyflawnwyr Cam-drin Domestig wedi cael ei ddyrannu, mae'r arian hwn heb ei ddyrannu yn awr.
Dyraniad cyllideb: £50,000