Cyflwynwyd y Rhwymedi Cymunedol yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ac mae’n rhoi mwy o lais i ddioddefwyr wrth gyflawni cyfiawnder troseddol.

Caiff y Rhwymedi Cymunedol ei gyflawni trwy broses o’r enw Datrysiad Cymunedol. I ddefnyddio Datrysiad Cymunedol, rhaid bod gan y swyddog ddigon o dystiolaeth i achos gael ei ddwyn i’r llys a rhaid i’r troseddwr gyfaddef ei fod yn euog. Ar ôl ymgynghori gyda’r dioddefwr, rhaid i’r swyddog hefyd benderfynu mai gwell fyddai ymdrin â’r mater yn y gymuned.

Ymysg y mathau o droseddau sy’n addas ar gyfer Rhwymedi Cymunedol mae difrod troseddol, lladrad gwerth isel, mân ymosodiadau (heb anaf) ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ar ôl i drosedd gael ei chyflawni, bydd swyddogion heddlu’n cyflwyno rhestr i ddioddefwyr gyda dewis o bedair cosb y tu allan i’r llys. Mae’r opsiynau hyn yn rhoi llais i’r dioddefwr yn y ffordd y mae cyfiawnder yn cael ei weinyddu.

Penderfynwyd ar yr opsiynau sydd ar gael trwy’r Rhwymedi Cymunedol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.

Y pedwar opsiwn y cytunwyd arnynt yw:

  1. Gwneud iawn am ddifrod a achoswyd (ee atgyweirio difrod i eiddo, glanhau graffiti neu ddychwelyd eiddo wedi’i ddwyn)
  2. Talu i atgyweirio’r difrod a achoswyd neu i amnewid yr eiddo a gafodd ei ddwyn
  3. Ymddiheuriad llafar neu ysgrifenedig sy’n ddidwyll ac yn dderbyniol i’r dioddefwr
  4. Dull adferol sy’n caniatáu i ddioddefwyr a throseddwyr leisio eu safbwyntiau wrth ei gilydd heb gyfarfod wyneb yn wyneb

Yr heddlu sy’n penderfynu’n derfynol sut i ymdrin â’r troseddwr. Rhaid i’r penderfyniad wella hyder y cyhoedd yn y defnydd o warediadau y tu allan i’r llys a rhaid iddo beidio â thorri hawliau dynol.

Os bydd troseddwr yn peidio â chyflawni’r camau gweithredu y mae wedi cytuno arnynt trwy’r Rhwymedi Cymunedol, gellir ei ddwyn gerbron llys.