Yr Heddlu'n ymuno â'r cyngor i ddarparu gwasanaethau ychwanegol mewn canolfan gymunedol

31ain Hydref 2018

Gall trigolion sydd am gysylltu â Heddlu Gwent wneud hynny yn siop un stop Cyngor Sir Fynwy yng nghanol tref Y Fenni yn awr.

Mae pwynt cyswllt heddlu ar gael yn y siop un stop yn awr yn ystod oriau agor arferol. Gall ymwelwyr wneud ymholiadau cyffredinol, hysbysu am drosedd, derbyn cyngor ac arweiniad, cynhyrchu dogfennau a gadael negeseuon i swyddogion a staff.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Bydd y newidiadau yn Y Fenni'n caniatáu i'r cyhoedd fynd at wybodaeth, cymorth a chyngor ynghylch llu o wasanaethau mewn lleoliad yng nghanol y dref. Bydd gan Heddlu Gwent bresenoldeb cryf a gweladwy yn y dref o hyd a hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Fynwy am ei gefnogaeth. Dyma enghraifft wych o bartneriaeth sector cyhoeddus yn gweithio."

Mae'r symudiad i'r siop un stop yn rhan o strategaeth ystâd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ddatblygu cyfleusterau sy'n adlewyrchu anghenion plismona yn yr oes fodern.

Nid yw adeilad blaenorol yr heddlu yn y dref yn addas i'r pwrpas mwyach a chafodd ei werthu'r llynedd. Estynnwyd gwahoddiad diweddar i gynghorwyr lleol weld cyflwr yr hen adeilad a'r buddiannau o symud i gyfleuster sy'n cael ei rannu.

Dywedodd Cadlywydd yr Ardal Blismona Leol, Uwch-arolygydd Ian Roberts: “Rydym wedi ymroi i ddarparu gwasanaethau plismona effeithiol yn yr oes fodern, gan ddefnyddio technoleg newydd ac arferion gweithio cyfredol i amddiffyn a thawelu meddwl y cyhoedd. Mae symud i'r siop un stop yn ffordd gost-effeithiol o sicrhau ein bod yn cael ein gweld a bod gennym leoliad gyda gwasanaeth desg flaen yng nghanol y dref. Bydd hefyd yn caniatáu i drigolion fynd at lawer o wasanaethau cyhoeddus yn hawdd o un lle, dan un to."

Mae'r siop un stop yn Neuadd y Dref Y Fenni ac mae amrywiaeth eang o wasanaethau'r cyngor ar gael yno hefyd.

Dywedodd yr aelod cabinet dros lywodraethu, y cynghorydd Paul Jordan: “Rydym yn falch o groesawu ein partneriaid yn Heddlu Gwent i'r siop un stop yn Y Fenni. Trwy gydweithio, gallwn helpu i roi sylw i'r pethau sydd o bwys i gymunedau lleol a rhoi profiad cwsmer da i'n trigolion. Dyma enghraifft wych o sut rydym yn gweithio gyda'n partneriaid bwrdd gwasanaethau cyhoeddus i helpu ein cymunedau i ffynnu."

Mae'r siop un stop ar agor:

  • Dydd Llun 9am-5pm
  • Dydd Mawrth 9am-5pm
  • Dydd Mercher 9.30am-5pm
  • Dydd Iau 9am-5pm
  • Dydd Gwener 9am-4.30pm