Yr Angel Cyllyll yn cyrraedd Gwent

2il Tachwedd 2022

Mae'r Angel Cyllyll, symbol cenedlaethol yn erbyn trais ac ymosodiad mewn cymunedau, wedi cyrraedd Gwent.

Bydd y cerflun 27 troedfedd o uchder sydd wedi'i wneud o dros 100,000 o gyllyll, yn cael ei arddangos yng nghanolfan siopa Friars Walk tan ddydd Mercher 30 Tachwedd.

Mae'r cerflun eiconig, a gomisiynwyd gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt ac a grëwyd gan yr arlunydd Alfie Bradley, wedi bod yn ymweld â threfi a dinasoedd ledled y wlad.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwyf yn falch iawn i groesawu'r Angel Cyllyll i Went. Mae'n ein hatgoffa ni o'r effaith ddinistriol y gall trais ac ymosodiad ei gael ar ein cymunedau.

"Mae hwn yn gyfle unigryw i weld yr Angel Cyllyll yng Ngwent a hoffwn annog trigolion ledled y rhanbarth i ddod i'w weld yn ystod y mis nesaf."

Mae'r Angel Cyllyll wedi ei wneud o gyllyll sydd wedi cael eu hildio mewn amnestau ledled y DU ac mae negeseuon o obaith gan deuluoedd y dioddefwyr wedi cael eu hysgythru ar ei adenydd.

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Mae'n fraint cael cynnig lle i'r Angel Cyllyll a hoffwn ddiolch i bawb a helpodd i ddod ag ef yn ddiogel i Went.

"Mae'n gyfle i ni ymgysylltu â'n trigolion, yn arbennig ein plant a phobl ifanc, ynglŷn â chanlyniadau troseddau treisgar ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn arwain at fwy o sgyrsiau gyda'n cymunedau trwy gydol ymweliad yr Angel Cyllyll.”

Mae'r Angel Cyllyll wedi ymweld â 27 o drefi a dinasoedd ledled y DU ers dechrau ei daith genedlaethol yn 2018.

Meddai Simon Pullen, Cyfarwyddwr y Ganolfan yn Friars Walk: "Mae'n anrhydedd cael croesawu'r Angel Cyllyll i Friars Walk yn ystod mis Tachwedd. Mae'n strwythur aruthrol, ac yn ffordd gadarnhaol iawn o annog deialog agored am droseddau cyllyll trwy'r wlad gyfan. Edrychwn ymlaen at groesawu pobl i galon Casnewydd i fod yn rhan o'r daith bwysig hon."

Trwy gydol ymweliad yr Angel Cyllyll bydd Heddlu Gwent yn gosod biniau ildio cyllyll mewn gorsafoedd heddlu ar draws Gwent.

Trwy fis Tachwedd gallwch gael gwared ar gyllyll yn ddiogel ac yn ddienw yn y gorsafoedd canlynol.

  • Canol Casnewydd: 8am - 7pm
  • Sir Fynwy: 9am - 1pm, 2pm – 4pm
  • Coed-duon: 9am - 1pm, 2pm – 4pm
  • Glynebwy: 9am - 1pm, 2pm – 4pm
  • Cwmbrân: 9am - 1pm, 2pm – 4pm