Ymweliad y Comisiynydd â Dilynwyr Ffasiwn Gwent
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (Y Comisiynydd), Jeff Cuthbert, wedi ymweld â phobl ifanc o ystadau Brynfarm a Choed Cae sydd wedi ysgubo'r byd ffasiwn gyda'u prosiect diweddaraf 'It's Called Ffasiwn’.
Cynhaliwyd y digwyddiad i ddathlu cyraeddiadau'r bobl ifanc yn dilyn eu prosiect tair blynedd, a gyflawnwyd mewn partneriaeth â'r ffotograffwyr Clémentine Schneidermann a Charlotte James.
Yn ystod y prosiect, dysgodd pobl ifanc o grwpiau ieuenctid Interact Brynfarm a Choed Cau sgiliau megis gwnïo, addasu a steilio dillad, cyn rhoi eu sgiliau newydd ar waith i gynhyrchu sesiwn ffotograffiaeth proffesiynol.
Yn ystod ei ymweliad dywedodd y bobl ifanc wrth y Comisiynydd am eu hyder a'u henwogrwydd diweddar.
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Mr Cuthbert "Mae'n ysgubol gwrando ar y bobl ifanc sydd yma heddiw a chlywed y balchder yn eu lleisiau wrth iddynt sôn am beth maen nhw wedi cyflawni.
“Yn anffodus mae pobl ifanc o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig yng Ngwent yn aml yn cael eu stereoteipio ac mae disgwyliadau pobl ohonynt yn gallu bod yn isel.
"Mae'r grŵp hwn wedi dangos, nid yn unig i ni yng Ngwent, ond i bobl ifanc o gwmpas y byd, bod ein pobl ifanc yn gallu cyflawni canlyniadau ardderchog gyda rhywfaint o gefnogaeth a ffydd."
Mae'r delweddau, sy'n cael eu harddangos yn gyhoeddus yn Sefydliad Martin Parr ar hyn o bryd, wedi cael eu cyhoeddi dros y byd gan nifer o gyhoeddiadau uchel eu proffil gan gynnwys Vogue a The New Yorker.
Siaradodd Donna Wallbank, cyd-sefydlydd y ddau grŵp ieuenctid Interact, sydd ar ddod yn Llywydd y Clwb Rotari (Prydain Fawr ac Iwerddon), am ei balchder yn dilyn agoriad swyddogol yr arddangosfa mis diwethaf, "Mae'r balchder rwy'n teimlo bob tro rwyf gyda'r bobl ifanc yn union fel rhiant yn gwylio ei phlentyn ei hun yn tyfu.
"Mae gweld eu hymdrech, gwybod eu bod yn ymddiried ynom ni i'w cymryd nhw i fannau anghyfarwydd, a'r ffordd maen nhw'n ein hysbrydoli ni yn anogaeth i mi ganfod y gweithgarwch nesaf ar eu cyfer.
“Pan welais y lluniau bendigedig hynny yn yr oriel, roeddwn yn llawn balchder, collais ddeigryn ac roeddwn yn gwybod mai'r hyn sy'n bwysig yw gwneud gwahaniaeth.
"Rwy'n falch o weithio gyda Michelle, swyddogion cymorth cymunedol Brynmawr, ein gwirfoddolwyr a'r bobl ifanc eu hunain.
Cafodd y prosiect gefnogaeth Clwb Rotari lleol Brynmawr ynghyd â'r gweithiwr ieuenctid Michelle Hurter, swyddogion cymorth cymunedol Blaenau Gwent Linzi Nicholls a Joanne Robbins a Swyddog Cynhyrchu Incwm Heddlu Gwent, Stacey Taylor.
Daeth Stacey'n rhan o'r prosiect ar ôl clywed bod y bobl ifanc yn annhebygol o fynd i agoriad yr arddangosfa o'u ffotograffau.
“Cefais fy syfrdanu gan faint o waith roedd y grwpiau wedi ei wneud dros y tair blynedd diwethaf.
"Roedd yn drueni felly i glywed gan y bobl ifanc hyn nad oedden nhw'n disgwyl gallu bod yn bresennol yn yr arddangosfa, gan ddweud wrthyf nad oedden nhw'n gwybod sut i fynd i lefydd fel hynny.
“Dyna pryd y siaradais a'n Comander Plismona Ardal Leol, Prif Arolygydd Jason White, a ryddhaodd £500 o gyllid cymunedol a ddyrannir gan y Comisiynydd.
"Rwy'n teimlo ei bod yn bwysig bod pobl eraill yn y gymuned yn cael eu hannog i ganfod ac ymgeisio am gyllid ac i fod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw."
Os ydych chi'n rhan o grŵp cymunedol ac am gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd cyllido posibl, cysylltwch â Stacey ar e-bost, Stacey.taylor@gwent.pnn.police.uk.
Mae'r arddangosfa ar agor i'r cyhoedd tan 25 Mai 2019. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.martinparrfoundation.org.