Y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu yn atgyfnerthu'r alwad i breswylwyr aros gartref a chadw’n ddiogel

25ain Mawrth 2020

Mae Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, wedi atgyfnerthu'r alwad i bawb yng Ngwent aros gartref lle bynnag y bo modd: "Mae'n hanfodol bod pawb yn gwrando ar ganllawiau clir y llywodraeth i helpu i fynd i'r afael â'r feirws hwn.

"Mae angen eich cefnogaeth chi ar bob un o'n gwasanaethau cyhoeddus a'r ffordd hawsaf o wneud hyn yw aros gartref.

"Mae'n hanfodol bod pobl y mae angen cymorth arnyn nhw yn gallu ei gael. Ac, i wneud hynny, mae angen i bob gwasanaeth cyhoeddus allu ymateb mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

"Ar y cyd, mae angen i ni gyd dynnu at ein gilydd i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas drwy wneud popeth a allwn i arafu lledaeniad COVID-19.

"Helpwch ni i gyflawni hyn drwy ffonio 101 a 999 dim ond os oes angen a pheidiwch â ffonio Heddlu Gwent am arweiniad ar yr hyn y mae canllawiau newydd y llywodraeth yn ei olygu i chi. Mae’r canllawiau llawn ar gael ar wefan Gov.uk a dyma'r lle i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y feirws.

"Mae'r neges yn syml. Arhoswch gartref. Amddiffynnwch y GIG. Achubwch fywydau."