Y COMISIYNYDD YN YMATEB I’R SYLW DIWEDDARAF I DROSEDDAU CYLLYLL

7fed Hydref 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert wedi ymateb i'r sylw diweddaraf yn y wasg i ffigyrau troseddau cyllyll yn y DU.

Mae dadansoddiad o ffigyrau trosedd yr heddlu gan y BBC wedi awgrymu bod cyfradd ymosodiadau gyda chyllyll mewn rhai trefi a dinasoedd rhanbarthol yn uwch nac yn nifer o fwrdeistrefi Llundain.

Ar ôl adolygu'r sylw yn y wasg, dywedodd Mr Cuthbert: "Efallai eich bod chi wedi gweld adroddiadau yn y wasg y bore yma bod ymosodiadau gyda chyllyll y tu allan i Lundain ar gynnydd.

"Hoffwn gymryd y cyfle hwn i sicrhau dinasyddion Gwent, er bod troseddau cyllyll yn cael llawer iawn o sylw yn y cyfryngau, mae'r cyfraddau yng Ngwent yn dal i fod gyda'r isaf yn y DU.

“Un o'm prif flaenoriaethau fel Comisiynydd yw atal trosedd a mynd i'r afael â throseddau sy'n peri'r bygythiad, y niwed a'r perygl mwyaf i bobl.

“Hoffwn bwysleisio bod Heddlu Gwent mynd ar ôl pob arf ar ein strydoedd yn rhagweithiol ac rydym wedi gweithio'n galed ar ymgyrchoedd i atal cyllyll ac arfau tanio rhag mynd i ddwylo'r bobl anghywir.

"Yng Ngwent rydym yn cefnogi ‘Ymgyrch Sceptre’ hefyd, ymgyrch genedlaethol sy'n ceisio addysgu pobl am y peryglon sy'n gysylltiedig â chyllyll.

"Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am unrhyw un sy'n cario arf, cysylltwch â Heddlu Gwent trwy gyfrwng eu desg cyfryngau cymdeithasol, trwy ffonio 101 neu drwy ffonio 999 mewn argyfwng."