Y Comisiynydd yn llongyfarch y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid am gipio Gwobr Arloesi

10fed Tachwedd 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili am gipio Gwobr Hwb Doeth gyntaf y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid am ‘arfer arloesol’ am ei brosiect ‘Be Me’.

Mae ‘Be Me’ yn brosiect iechyd a harddwch sy'n cynorthwyo merched ifanc sydd mewn perygl o droseddu, sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu sydd eisoes yn ymwneud â'r system cyfiawnder ieuenctid. Tyfodd ‘Be Me’ o ddigwyddiad Gemau Stryd lle gwelodd aelodau’r tîm troseddu ieuenctid pa mor hapus a hyderus y gwnaeth gweithdy iechyd a harddwch i ferched deimlo.

Ers iddo gael ei sefydlu tair blynedd yn ôl, mae'r prosiect wedi blodeuo, gan rymuso a hybu hyder llawer o blant. Wedi'i anelu at ferched yn wreiddiol, mae ‘Be Me’ nawr yn croesawu bechgyn ifanc sy'n manteisio ar ddysgu sgiliau newydd a chael cymorth a chyngor gyrfeydd amhrisiadwy.

Nid dim ond un wobr gafodd ei chipio gan y gwasanaeth, ond enillodd yr ail wobr ar gyfer prosiect ‘Cars and Consequences’ Gwent hefyd. Mae hyn yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn ac sy'n darparu negeseuon pwysig i blant i helpu i atal troseddau ceir a lleihau nifer y troseddau sy’n cael eu cyflawni gan blant. Gan weithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu Gwent, Barod, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Casnewydd, Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Sir Fynwy a Thorfaen a Headway,  cymdeithas anafiadau ymennydd, mae plant yn gweld yr effeithiau posibl o droseddau ceir a'r effaith ddinistriol y mae digwyddiadau o'r fath yn ei chael ar unigolion a'r gwasanaethau brys.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid gyfrifoldeb statudol i nodi a rhannu arfer gorau, felly rwy’n falch iawn bod Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili a phrosiect ‘Gwent Cars and Consequences’  wedi cael ei gydnabod am eu gwaith rhagorol gyda phlant yng Ngwent.

"Mae lleihau risg a darparu ymyrraeth trwy brosiectau fel ‘Be Me’ a ’Cars and Consequences’ yn allweddol i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein Bwrdeistref Sirol. Rwy'n gobeithio gweld rhagor o fentrau lleihau niwed yn cael eu cydnabod yn y dyfodol.

"Mae defnyddio gwybodaeth a chymorth busnesau yn ddull yr wyf yn ei ganmol, ynghyd â phlant sydd mewn perygl yn cael cyfle i ennill sgiliau a chodi eu dyheadau.”

Ychwanegodd Michaela Rogers, Rheolwr Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, “Mae staff GTI yn gweithio'n ddiflino ac yn greadigol i ysbrydoli, cymell a chynorthwyo plant i fyw bywydau di-drosedd a chyflawni. Gofynnir i'r plant sy'n gweithio gyda'n gwasanaeth roi adborth bob amser ac mae'r ddau brosiect sydd wedi ennill gwobrau yn derbyn sylwadau cadarnhaol yn gyson.”

“Cefnogir y prosiectau gan ein gwirfoddolwyr hefyd, sy'n rhoi o’u hamser yn hael i sicrhau canlyniadau llwyddiannus. Rwy’n falch o’r buddsoddiad gan bawb a gymerodd ran ac rwyf wrth fy modd bod eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid trwy Wobrau Hwb Doeth.”