Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn croesawu cynlluniau i newid rheolau datgelu cofnodion troseddol
Mae Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i newid y rheolau presennol ynghylch datgelu cofnodion troseddol.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn dileu'r gofyniad i ddatgelu yn awtomatig unrhyw rybudd, cerydd neu rybuddiad a gafodd person ifanc. Bydd y troseddau mwyaf difrifol yn parhau i gael eu datgelu o dan y rheolau.
Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae'n hanfodol nad yw plant sydd efallai wedi dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yn cael eu cosbi'n ormodol am weddill eu hoes. Mae'n bwysig cofio y bydd llawer o'r plant a'r bobl ifanc hyn ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
"Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau nad ydynt yn cael eu heithrio o gyflogaeth, gan leihau'r risg y byddant yn aildroseddu yn ddiweddarach yn eu bywydau.
"Mae fy swyddfa wedi gwneud llawer o waith gyda'n partneriaid gan gynnwys Heddlu Gwent a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i leihau nifer y plant yn y system cyfiawnder troseddol drwy blismona mewn modd y mae plant yn ganolog iddo, a bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn cefnogi'r gwaith hwnnw."