Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn canmol gwaith gwirfoddolwyr yng Nghil-y-coed

7fed Mehefin 2021

Yr wythnos hon cyfarfu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert â chydlynydd Tîm Tref Cil-y-coed, Aaron Reeks i gael ei gymorth i rannu gwybodaeth â busnesau lleol am gynllun newydd Heddlu Gwent i fynd i'r afael â throseddau meddiangar, Dangos y Drws i Drosedd.

Grŵp cymunedol yw Tîm Tref Cil-y-coed, sy'n cynnwys busnesau, trigolion a landlordiaid.

Wrth siarad â Mr Reeks, clywodd y Comisiynydd hefyd am waith gwych y tîm yn ystod y pandemig.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Roeddwn i’n falch o ymweld â siop Caldicot Goes Pop a siarad ag Aaron Reeks o Dîm Tref Cil-y-coed.

"Mae dulliau llafar yn hanfodol wrth ledaenu negeseuon, mae'n hen arfer oed yr wyf i’n ei werthfawrogi'n fawr. Trwy weithio gyda Mr Reeks gellir rhannu gwybodaeth am Dangos y Drws i Drosedd â masnachwyr eraill yn y dref.

"Roeddwn i hefyd wrth fy modd o glywed am y gwaith gwych y mae Aaron a gwirfoddolwyr eraill wedi bod yn ei wneud drwy gydol y pandemig i helpu i leddfu unigrwydd yn y dref a'r ardaloedd cyfagos.

"Roedd yn wych gweld sut mae'r siop dros dro yn helpu llawer o fusnesau bach lleol i gael presenoldeb yn y dref.

"Mae hyn yn amserol gan mai Wythnos Gwirfoddolwyr yw hi yr wythnos hon, hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i’r Tîm Tref a'r holl wirfoddolwyr ledled Gwent sydd wedi rhoi o’u hamser yn anhunanol i helpu eraill yn ystod y pandemig.

"Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith da yn parhau ac mae fy nhîm a minnau yn edrych ymlaen at fod yn rhan o Ddiwrnod 999 ar 15 Awst 2021."

Cyn y pandemig roedd y tîm o wirfoddolwyr yn rhan annatod o lawer o ddigwyddiadau cymunedol a oedd yn digwydd yn y dref gan greu lle positif, diogel a diddorol i bobl leol gyfarfod.

Mae'r tîm yn gobeithio, wrth i gyfyngiadau leddfu, y gellir cynllunio llawer mwy o ddigwyddiadau'n ddiogel ac o fewn y canllawiau.

Dysgwch fwy am Dîm Tref Cil-y-coed.