Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu'n lansio cylchlythyr

29ain Ionawr 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi lansio e-gylchlythyr newydd.

Bydd y cylchlythyr pythefnosol yn sicrhau bod trigolion Gwent yn cael y newyddion diweddaraf am weithgareddau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Dywedodd y Comisiynydd Jeff Cuthbert: “Mae'r flwyddyn hon yn argoeli i fod yn un heriol i Heddlu Gwent. Mae dileu'r tollau ar Bont Tywysog Cymru, agor Canolfan Gynadleddau Rhyngwladol Cymru ac, wrth gwrs, Brexit, i gyd yn peri ansicrwydd i blismona lleol.

“Mae hyn yng nghyd-destun pwysau ariannol cynyddol a'r angen parhaol i fynd i'r afael â meysydd fel troseddau cyfundrefnol difrifol wrth roi cymorth i rai o'r trigolion mwyaf bregus yn ein cymunedau.

“Bydd y cylchlythyr yn rhoi'r newyddion diweddaraf i drigolion ynghylch sut rydym yn gweithio i leihau troseddau, rhoi cymorth i ddioddefwyr, a darparu gwasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon.”

Cofrestrwch yn Saesneg http://eepurl.com/gcUkVj  neu yn Gymraeg http://eepurl.com/ge9oFL