Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cefnogi criw bad achub lleol

23ain Medi 2019

Mae Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, wedi cyfrannu arian tuag at Gymdeithas Achub Ardal Hafren (SARA).

Mae'r Comisiynydd wedi rhoi £1000 o'i Gronfa Effaith Gadarnhaol, sy'n cefnogi prosiectau lleol sy'n helpu i leihau trosedd neu i roi cymorth i ddioddefwyr trosedd.

Mae SARA, sy'n gweithio o orsaf dân Malpas ac sydd â chriw sydd i gyd yn wirfoddolwyr, yn cynorthwyo Heddlu Gwent mewn chwiliadau am bobl ar goll a digwyddiadau sy'n digwydd ar hyd Aber Hafren.

Dywedodd Mr Cuthbert: “Mae Cymdeithas Achub Ardal Hafren yn rhoi cymorth gwerthfawr i Heddlu Gwent a'r gwasanaethau brys, ac yn dibynnu ar wirfoddolwyr sy'n gwneud gwaith hynod o bwysig.

"Rwyf wrth fy modd i allu rhoi cymorth iddyn nhw a'r gwaith gwych maen nhw'n ei wneud i gadw'r dyfroedd o gwmpas afon Hafren yn ddiogel."

Dywedodd Richard Newhouse o SARA: “Rydym yn ddiolchgar i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am ei rodd.

"Mae gorsaf bad achub SARA yng Nghasnewydd yn costio tua £20,000 bob blwyddyn i'w gweithredu a bydd y rhodd hwn yn mynd tuag at gynnal a chadw ein badau, cerbydau a chyfarpar.

I roi arian i SARA, ewch i www.sara-rescue.org.uk/donate