Wythnos Gwirfoddolwyr 2023
Mae'n Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr ac rwyf am fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r holl wirfoddolwyr ledled Gwent sy'n rhoi o'u hamser yn hael i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ac edrych ar ôl ein cymunedau.
Yn benodol, rhaid i mi ddiolch i'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio ar ran fy swyddfa i.
Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn ein helpu ni i sicrhau bod yr amodau llym yn nalfeydd Heddlu Gwent yn cael eu bodloni a bod lles y bobl sy'n cael eu dal ynddynt yn cael ei warchod.
Mae ein Hymwelwyr Lles Anifeiliaid yn chwarae rhan hollbwysig yn sicrhau bod cŵn Heddlu Gwent yn cael eu trin yn dda a bod y safonau uchaf yn cael eu bodloni o ran lles anifeiliaid.
Rhaid i mi ddiolch i Heddlu Gwirfoddol Heddlu Gwent hefyd. Mae eu cyfraniad i blismona'n sylweddol ac maen nhw'n ychwanegu haen arall o gadernid sy'n cefnogi Heddlu Gwent yn ei ymrwymiad i amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau.
Mae pob awr a dreulir yn gwirfoddoli yn gwneud gwahaniaeth go iawn a hoffwn ddiolch i'r holl wirfoddolwyr, ar fy rhan i a hefyd ar ran y trigolion a'r cymunedau rwy'n eu gwasanaethu yng Ngwent, am bopeth rydych chi'n ei wneud i'n cymunedau.