Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Stelcio ac Aflonyddu
Mae hi'n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Stelcio ac Aflonyddu, a'r thema yw 'Sefyll yn erbyn Stelcio, Cefnogi Pobl Ifanc’.
Ni fydd stelcio ac aflonyddu'n cael eu goddef, ac mae fy swyddfa i a Heddlu Gwent wedi ymroi i roi cymorth i ddioddefwyr y drosedd arswydus hon.
Mae data cenedlaethol gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplough yn dangos bod mwy o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn cysylltu â'r llinell gymorth stelcio genedlaethol i geisio cymorth ynghylch sut i ymdrin ag ymddygiad digroeso.
Mae fy swyddfa wedi bod yn gweithio gyda swyddog Stelcio ac Aflonyddu Heddlu Gwent a phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r wythnos ymysg pobl ifanc o Went yng nghampws Casnewydd Prifysgol De Cymru, a pharthau dysgu Glynebwy a Thorfaen Coleg Gwent.
Gan weithio'n agos gyda thîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Gwent, Cymorth i Fenywod Cyfannol, Llamau a Llwybrau Newydd, siaradodd fy nhîm â dros 100 o bobl ifanc i'w helpu nhw i adnabod ymddygiad digroeso, deall y gwahaniaeth rhwng stelcio ac aflonyddu a gwybod ble i geisio cymorth.
Gall stelcio ddigwydd i unrhyw un, ac mae'n golygu ymddygiad penderfynol, obsesiynol, digroeso a chyson. Gall gynnwys cael eich gwylio, cael anrhegion digroeso, difrod i eiddo, hacio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, cyswllt digroeso neu gael eich dilyn.
Mae stelcio ac aflonyddu'n gallu cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl pobl ifanc, ac rwy'n falch bod staff yn y lleoliadau hyn wedi cael mynediad at sesiynau hyfforddiant ar-lein i'w helpu nhw i ddeall sut i roi cymorth i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan stelcio ac aflonyddu.
Mae stelcio yn drosedd. Ffoniwch 101 i riportio ymddygiad digroeso cyson, ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Ffoniwch Linell Gymorth Stelcio Genedlaethol y DU ar 0808 802 0300 i gael cyngor a chefnogaeth.
Mae llinell gymorth am ddim Byw Heb Ofn ar gael 24/7 hefyd ar 0808 10 800.